Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Sgarlets 11-25 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Scarlets yn erbyn y GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Buddugoliaeth o 25-11 i'r Gweilch yn erbyn y Sgarlets yng ngêm ddarbi gorllewin Cymru ddydd Mawrth.

Yn dilyn hanner cyntaf di-sgôr, sgoriodd Reuben Morgan-Williams, Sam Parry a Jack Walsh i'r Gweilch yn yr ail hanner gydag Owen Williams yn ychwanegu 10 pwynt â'i droed.

Sgoriodd y mewnwr Gareth Davies i'r Sgarlets gyda Ioan Lloyd yn ychwanegu at y sgôr yn dilyn dwy gic gosb.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf y Gweilch yn Llanelli mewn gêm gystadleuol er 2015.

Mae'r Gweilch yn codi i'r 11eg safle yn y tabl yn sgil eu buddugoliaeth tra bod y Sgarlets yn aros yn bedwerydd ar ddeg gyda dwy fuddugoliaeth yn unig ac wyth colled y tymor hwn.

Bydd y Gweilch yn croesawu Caerdydd i Ben-y-bont ar Ogwr Ddydd Calan, tra bydd y Sgarlets yn teithio i herio'r Dreigiau. h.