Dynes wedi marw o anafiadau gwasgu wedi ffrwydrad

  • Cyhoeddwyd
Dywedodd ei theulu fod Danielle Evans yn "enaid deallus, gofalgar a hardd"Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei theulu fod Danielle Evans yn "enaid deallus, gofalgar a hardd"

Roedd dynes y cafwyd hyd i'w chorff ar safle ffrwydrad yn Rhondda Cynon Taf wedi marw o anafiadau gwasgu trawmatig, mae cwest wedi clywed.

Cafwyd hyd i Danielle Evans, 40, ar 14 Rhagfyr yn dilyn ymgyrch chwilio yng ngweddillion adeilad ar Stad Ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd.

Roedd y ffrwydrad mewn warws 60,000 troedfedd sgwâr o'r enw Rizla House, sy'n cynnwys 13 o unedau masnachol, a chafodd tri person arall fân anafiadau yn sgil y ffrwydrad.

Roedd Mrs Evans, oedd yn byw yng Ngorseinon, Abertawe, wedi sefydlu ei busnes, Celtic Food Laboratories yn 2009.

Y cwmni, oedd yn arbenigo mewn profi microbau ar fwyd, oedd un or rheiny wedi'u lleoli yn Rizla House.

Mewn teyrnged dywedodd teulu Mrs Evans ei bod yn "gorwynt o fenyw", yn "wraig hynod ffyddlon a chariadus" a'r "ffrind gorau y gallai unrhyw un obeithio amdano."

Disgrifiad,

Fideo o'r fflamau yn codi i'r awyr wedi'r ffrwydrad ar 13 Rhagfyr

Clywodd Llys Crwner Pontypridd fod patholegydd, am y tro, wedi nodi asffycsia trawmatig fel achos y farwolaeth.

Dywedodd yr Uwch Grwner, Graeme Hughes, bod ymchwiliad yr heddlu i achos y ffrwydrad yn parhau.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio cael diweddariad ar yr ymchwiliad hwnnw erbyn ddiwedd Mawrth.

Cynigiodd ei gydymdeimlad â theulu Mrs Evans a gohiriodd y cwest i ddyddiad i'w benderfynu unwaith y bydd yr heddlu'n darparu'r diweddariad hwnnw.

Pynciau cysylltiedig