Mwy o wyntoedd cryfion i daro de Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd gwyntoedd cryfion a cawodydd yn taro rhannau o Gymru ddydd Sul, gyda hyrddiau o hyd at 75mya mewn ardaloedd arfordirol.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn bydd yn dod i rym am 10:00 ac yn ei le tan hanner nos.
Mae'r rhybudd gwynt yn cynnwys siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.
O ganlyniad mae disgwyl peth oedi i drafnidiaeth ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a fferi, gan ofyn i bobl fod yn ofalus wrth gerdded ger clogwyni.
"Os ydych ger yr arfordir, arhoswch yn ddiogel yn ystod tywydd stormus trwy fod yn ymwybodol o donnau mawr," ychwanegodd y Swyddfa Dywydd.
Oherwydd problemau gyda'r rheilffyrdd mae bysiau yn rhedeg rhwng Abertawe a'r Amwythig, a Chyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2023