Cyhuddo heddwas o'r gogledd o ymosod ym Mhorthmadog

  • Cyhoeddwyd
HeddwasFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru yn ymddangos yn y llys ddechrau'r flwyddyn wedi'i gyhuddo o ymosod yn dilyn digwyddiad ym Mhorthmadog.

Bydd PC Richard Williams, 42, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ar 4 Ionawr i wynebu cyhuddiadau o ymosod gan achosi anaf corfforol, a thagu rhywun.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â'r defnydd o rym tra'n arestio dyn ym Mhorthmadog ar 10 Mai eleni.

Daw yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Fe wnaeth y swyddfa ddechrau ymchwilio wedi i Heddlu'r Gogledd gyfeirio'r achos atyn nhw.

Ar ddiwedd yr ymchwiliad fe wnaeth yr IOPC yrru'r dystiolaeth a gasglwyd at Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi awdurdodi'r cyhuddiadau yn erbyn PC Williams.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud fod PC Williams yn parhau wedi'i wahardd o'i waith.