Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 27-21 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Y Gweilch oedd yn fuddugol ar Gae'r Bragdy mewn gêm a effeithiwyd yn fawr gan y gwynt a'r glaw.
Tîm y brifddinas oedd ar y blaen ar yr egwyl o 18-5 ond tarodd y Gweilch yn ôl yn yr ail hanner.
Sgoriodd y tîm cartref bedwar cais i gyd, gyda Keelan Giles yn tirio ddwywaith.
Hon oedd ail fuddugoliaeth y Gweilch yn erbyn timau o Gymru y gwyliau hwn wedi eu buddugoliaeth yn erbyn y Sgarlets ar Ŵyl San Steffan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2023