Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 13-12 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr y sgarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Y Dreigiau oedd yn fuddugol yn y gêm ddarbi yn erbyn y Scarlets ddydd Llun.

Collodd y Scarlets gyfle i ennill y gêm wedi i faswr Cymru, Costelow, fethu dwy gic hwyr at y pyst.

Tom Rogers ac Ioan Lloyd sgoriodd geisiau'r Scarlets.

Sgoriodd yr wythwr Aaron Wainwright gais ar ei 100fed ymddangosiad i'r Dreigiau a chafodd ei enwi'n chwaraewr y gêm.

Ciciodd y cefnwr cartref Cai Evans wyth pwynt mewn amodau anffafriol.

Roedd hyfforddwyr y ddau dîm, Dai Flanagan o'r Dreigiau a Dwayne Peel o'r Scarlets, dan bwysau ar ôl dechrau digalon i'r tymor, gyda'r ddau dîm wedi colli wyth o'u deg gêm agoriadol.

Yn sgil y fuddugoliaeth, mae'r Dreigiau yn codi uwchlaw'r Siarcod ac oddi ar waelod tabl yr URC, gyda'r Sgarlets yn parhau i fod un safle uwchben eu gwrthwynebwyr.

Pynciau cysylltiedig