'Boddhad' cyn-bennaeth ysgol ar ôl newid gyrfa i helpu pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Alwen Watkin
Disgrifiad o’r llun,

Alwen Watkin: "Dwi'n meddwl be wnaeth fy nychryn i fwya' ydy gymaint o bobl sy'n unig ar Ynys Môn"

Unigrwydd ydy un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu pobl hŷn ar Ynys Môn, yn ôl cyn-bennaeth ysgol sydd wedi newid cyfeiriad ei gyrfa yn llwyr.

Treuliodd Alwen Pennant Watkin dros 30 mlynedd yn y byd addysg a bu'n bennaeth yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog ac Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.

Ond ers mis Medi mae'n gweithio fel swyddog cefnogi hybiau cymunedol i Age Cymru Gwynedd a Môn.

Mae hi'n gweithio erbyn hyn o swyddfa yng Nghanolfan Glanhwfa, sy'n rhan o Gapel Moreia Llangefni.

"Dwi'n meddwl be wnaeth fy nychryn i fwya' ydy gymaint o bobl sy'n unig ar Ynys Môn," meddai wrth raglen y Post Prynhawn.

"Roedd gen i ryw grebwyll o be oedd byw ar ben fy hun, be oedd bod yng nghanol pobl ac wedyn mynd i dŷ gwag a cau drws ar y byd tu allan.

"Ond wnes i 'rioed sylweddoli cymaint o broblem oedd hi mewn cymdeithas a phobl yn mynd o wythnos i wythnos heb weld neb, heb gael sgwrs hefo neb ac mae hynny wedi bod yn agoriad llygad gwirioneddol."

'O bosib mewn cartref fasa nhw'

Yn ei swydd mae Alwen yn gyfrifol am roi cefnogaeth a chymorth i hybiau ar hyd a lled yr ynys, sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a dosbarthiadau i bobl dros 50 oed.

"Roedd rhywun yn d'eud wrtha'i ychydig yn ôl petai'r hwb ddim yn bodoli yma yn Glanwfa fasa 'na bosiblrwydd mai mewn cartre' y basa'r person yna oherwydd bod yr ymdeimlad o unigrwydd yn llethol ac yn teimlo mai'r unig ffordd oeddan nhw yn mynd i gael cyswllt hefo pobl oedd mynd i gartref," ychwanegodd.

Mae'r hybiau yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o ganolfannau gan gynnwys caffis a neuaddau pentref.

Mae natur y gweithgareddau sy'n cael eu cynnig yn ddibynnol ar anghenion y trigolion ym mhob ardal.

"Fy rôl i ydy hwyluso'r broses o drefnu rhaglen a dwi'n meddwl ei bod hi'n eithriadol o bwysig fod y rhaglen yn ymateb i anghenion y bobl sy'n mynychu."

'Mae'n llawn dop yma'

Yn Llangefni, er enghraifft, mae'r hwb yng Nglanhwfa yn cael ei ddefnyddio ar ddyddiau Mercher ac Iau.

"'Da ni'n cyflogi cogydddes ddeuddydd yr wythnos - mae hi yn darparu ar ddydd Mercher lobsgows neu gawl a phanad, ac ar ddydd Iau mae 'na ginio rhost dau gwrs yma.

"Mae hi'n llawn dop yma ar ddydd Iau, ac ar ddydd Mercher 'da ni hefyd yn cynnal pryd ar glyd."

Er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r hwb yn Llangefni mae 'na glwb datblygu sgiliau cyfrifiaduron yn cael ei gynnal ar ddyddiau Mercher.

"Mae rhai pobl yn dod â ffonau symudol, eraill yn dod â tabled hefo nhw a mi ydan ni'n medru darparu tabled i bobl fynd hefo nhw i ymarfer.

"Mae'r dosbarth yn cael ei deilwrio i anghenion yr unigolyn. 'Da ni hefyd yn gwneud petha' fel bancio ar-lein oherwydd bod hynny yn codi ofn ar bobl hŷn ac yn cynnal gweithdai ar faterion megis sgamio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddfa Alwen Pennant Watkin yng Nghanolfan Glanhwfa, sy'n rhan o Gapel Moreia Llangefni

Mae Alwen yn dweud ei bod hi'n cael boddhad mawr o'i swydd newydd.

"Y pleser dwi'n ei gael ydy o gyfarfod pobl a'r gwerthfawrogiad mae pobl yn ei roi," meddai.

"Mi roedd swydd addysgu mae'n rhaid imi gyfaddef yn swydd lle roedd pobl yn herio ar bob cyfle.

"Be' sy'n braf yn y swydd yma ydy pobl yn gwerthfawrogi y petha' lleiaf - y sgwrs, yr ista lawr a'r panad a'r cymdeithasu.

"Mae hynny'n werth y byd, bod rhywun yn teimlo ei fod yn gwneud gwahaniaeth."

Gwrandewch ar Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru am 17:00 ac ar BBC Sounds ar ôl hynny

Pynciau Cysylltiedig