Costau byw yn 'gwaethygu unigrwydd' pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Doedd rhai ddim yn gwybod bod fi wedi colli Cled," medd Glenys Williams

Mae llawer ohonon ni wedi teimlo effaith prisiau uwch ynni, bwyd a thanwydd yn ddiweddar.

Ond i rai pobl hŷn, mae'r argyfwng costau byw yn gwneud iddyn nhw deimlo'n fwy unig ac yn cyfyngu ar eu cyfleoedd i gysylltu ag eraill.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a'r Comisiynydd Pobl Hŷn nawr yn galw am weithredu i "greu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol" a'r "adnoddau a'r cyllid cywir i gyrraedd at bobl allai fod yn teimlo'n unig".

Mae unigrwydd yn bryder iechyd cyhoeddus ac wedi'i gysylltu â nifer o broblemau iechyd corfforol a meddyliol.

Daeth arolwg diweddar gan ICC, dolen allanol i'r casgliad fod bron i 1 o bob 5 o bobl (18%) yng Nghymru yn dweud eu bod yn teimlo'n unig "bob amser" neu "yn aml".

Mae bron i dri chwarter o bobl (73%) yng Nghymru yn dewis helpu eraill er mwyn gwarchod a gwella eu lles meddwl eu hunain yn ôl yr arolwg.

'Braf cael dod allan'

Un gymuned lle mae hyn yn amlwg yw Penygroes yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd. Mae gwirfoddolwyr lleol yn trefnu nifer o brosiectau a digwyddiadau i helpu taclo costau cynyddol ac unigrwydd.

Un digwyddiad ydy 'Llond Bol', lle mae menter gymunedol Yr Orsaf yn cynnig pryd o fwyd wythnosol am ddim gyda chymorth tua 25 o wirfoddolwyr.

Yn ôl Greta Jams, cydlynydd hwb Yr Orsaf, mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n fodlon helpu "oherwydd eu bod am roi 'nôl i'r gymuned".

Disgrifiad o’r llun,

Teimla Greta Jams fod "unigedd yn beth mawr yn yr ardal" yn enwedig ymysg pobl hŷn a dynion

"Da ni'n ffeindio bod pobl yn fwy parod i wirfoddoli a gwneud pethau mwy cymunedol sydd wedyn yn helpu efo'u hiechyd meddwl," meddai.

"Mae unigedd yn beth mawr yn yr ardal - mae pobl yn teimlo'n unig, yn enwedig pobl hŷn a dynion.

Ychwanegodd: "Mae pethau fel trafnidiaeth gyhoeddus wedi dirywio - mae 'na lai o fysys yn enwedig i'r pentrefi cyfagos. Mae pobl sydd ddim yn gyrru'n diodde' oherwydd hynny, mae'n golygu bod nhw ddim yn gweld pobl am ddyddiau.

"Mae rhai yn dod aton ni'n isel a thrist, mae'n effeithio ar eu hiechyd meddwl. Ond 'da ni'n gobeithio efo'r amrywiaeth o wasanaethau a sesiynau sydd ganddon ni yn Yr Orsaf bod ni'n gallu helpu efo un peth ar y tro."

Yn ôl un gwirfoddolwr, Ben Gregory, mae digwyddiadau fel 'Llond Bol' yn helpu mewn nifer o ffyrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ben Gregory fod digwyddiadau fel 'Llond Bol' yn buddio pobl mewn gwahanol ffyrdd

"Mae rhywbeth i bawb," esbonia. "Mae rhai sydd wir angen y pryd o fwyd, ac mae rhai sy'n dod yma i gymdeithasu.

"Mae'n cael pobl allan o'r tŷ - dod i rywle i gael cwmni a bwyd. Mae hefyd yn ffordd i sefydliadau eraill estyn allan at bobl a rhoi cefnogaeth ychwanegol."

Un sy'n mynd yn rheolaidd ydy Ceinwen Hughes, o Benygroes.

Meddai: "Mae'n bwysig ofnadwy achos 'da ni'n cael cysylltu efo bobl ac mae'n mynd a ni allan am ryw ddwy awr dair. Dwi'n meddwl bod cael bod ymysg pobl fel hyn yn torri ar unigrwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceinwen Hughes [chwith] a Glenys Williams yn mwynhau'r cyfle i gyfarfod â ffrindiau

Mae ei ffrind Glenys Williams yn cytuno ei bod hi'n "braf cael dod allan a sgwrsio efo ffrindiau".

Ychwanegodd: "Mae'n braf cael gweld pobl y pentre'. Hyd y stryd heddiw, ychydig iawn 'da chi'n gweld allan. A 'da ni 'di colli'n gwŷr, rheiny 'di bod yn sâl.

"Gynnon ni ddim ffrindiau arall, agos. Ond wedi dod allan, 'da ni'n ailgyfarfod hefo hen ffrindiau - dwi wrth fy modd!"

'Buddion enfawr'

Cynllun newydd arall sy'n ceisio mynd i'r afael â chostau cynyddol ac unigrwydd ar y cyd ydy'r cynllun Rhannu Cartref Gwynedd, sy'n galluogi dau berson i rannu cartref er budd i'r ddau unigolyn.

Byddai person hŷn sy'n byw yn eu cartref eu hun ac sydd ag ystafell sbâr, er enghraifft, yn cael ei baru'n ofalus â rhywun sydd angen tŷ fforddiadwy, a fyddai'n rhoi cefnogaeth a chwmnïaeth yn gyfnewid am rywle i fyw.

Maen nhw'n talu ffi i gefnogi'r broses Rhannu Cartref, ond byddai'r ffi yna fel arfer yn sylweddol is na chost rhent neu opsiynau cymorth yn y cartref eraill.

Yn ôl Richard Williams, cydlynydd y cynllun, mae'r "buddion yn enfawr".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Williams yn gobeithio y bydd y cynllun yn dod â phobl at ei gilydd

Meddai: "Efo costau byw mor uchel - a phobl yn teimlo'n unig ar ôl y pandemig ella - mae hwn yn dod a phobl at ei gilydd. Rhywun sy' angen 'chydig bach o gefnogaeth adra ac mae'n taclo pobl sy'n chwilio am le i fyw."

Ychwanegodd Mirain Roberts, Cydlynydd Gwynedd Oed Gyfeillgar: "Y gobaith ydy fod hwn yn rhoi cwmnïaeth i rywun a bod rhywun ddim yn mynd o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, heb gael sgwrs efo neb. Mae cyfeillgarwch yn mynd i fod yn rhan fawr o'r cynllun yma 'da ni'n tybio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mirain Roberts bod diogelwch yn hollbwysig i'r cynllun

"Mae diogelu'n mynd i fod yn rhywbeth hollbwysig i'r cynllun mae'n amlwg. Mi fyddwn ni'n gwneud gwiriad DBS.

"Mi fydd Rich, cydlynydd Rhannu Cartref, yn mynd drwy broses fanwl a thrylwyr iawn yn ystod y broses i wneud yn siŵr, nid yn unig eu bod nhw'r match perffaith, ond yn fwy na hynny'n bod ni'n gwneud pob un gwiriad diogelwch."

Mae'r prosiect yn dal yn cael ei sefydlu ond y nod yw dechrau paru preswylwyr yn ystod y misoedd nesaf.

'Effaith sylweddol ar iechyd a llesiant'

Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyfleoedd i bobl hŷn i gymdeithasu mwy er mwyn gwarchod eu hiechyd.

Mae ymchwilwyr wedi bod yn edrych ar sut mae pandemig Covid-19 a'r heriau costau byw wedi effeithio ar rwydweithiau cymdeithasol pobl hŷn.

Meddai'r Athro Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus gydag ICC: "Wrth i ni wynebu argyfwng costau byw, rhaid i ni beidio ag anghofio'r gwersi o Covid-19, bod perthnasoedd a chysylltiadau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol i warchod iechyd.

"Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, byddai'n wych pe gallai mwy o sefydliadau feddwl am sut y gallwn greu'r cyfleoedd hynny ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol i bobl hŷn.

"Er enghraifft, defnyddio presgripsiynu cymdeithasol, gwirfoddoli a chyfeillio, yn ogystal â sut y gallwn feithrin y cysylltiadau hynny yn anuniongyrchol drwy eu hystyried ym meysydd trafnidiaeth a chynllunio."

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Heléna Herklots hefyd yn cydnabod "rôl hanfodol" sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr wrth daclo unigrwydd, ac yn galw am yr "adnoddau a'r cyllid cywir i gyrraedd at bobl a all fod yn teimlo'n unig a chynnig y cymorth sydd ei angen arnynt".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei bod yn pryderu nad yw gweithgareddau i bobl hŷn yn fforddiadwy

Mae'n pryderu nad yw "gweithgareddau sy'n helpu pobl hŷn i fynd allan a chymdeithasu yn eu cymunedau... yn fforddiadwy mwyach".

Ychwanegodd: "Heb y cysylltiadau a'r cyfleoedd hyn i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw, mae risg y bydd llawer o bobl hŷn yn dod yn fwy unig ac ynysig, ac rydym yn gwybod bod hynny'n cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant pobl.

"Dyna pam ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cymryd y camau angenrheidiol i gael costau byw dan reolaeth, yn enwedig gan fod prisiau bwyd yn dal i godi'n sylweddol, yn ogystal â sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli allan ar gymorth ariannol hanfodol a hawliadau o'r fath - fel Credyd Pensiwn - a all wneud gwahaniaeth mawr i gyllid pobl."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Y DU: "Rydym yn darparu pecyn cymorth gwerth tua £3,300 fesul cartref, gyda phensiynwyr yn derbyn Taliad Costau Byw Pensiynwr arall o £300. Mae hyn ar ben y cynnydd mwyaf mewn hanes ym Mhensiwn y Wladwriaeth.

"Rydym hefyd wedi rhoi hwb i Gredyd Pensiwn i'r rhai sydd ar yr incwm isaf ac mae llwyddiant ein hymgyrch Credyd Pensiwn diweddar yn helpu i yrru nifer y ceisiadau i'r lefel uchaf erioed."

Pynciau cysylltiedig