Mannau Cynnes yn 'fwy na lloches rhag oerfel'

  • Cyhoeddwyd
Ann Joy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hyfryd dod i fan cynnes i gael cwmni, medd Ann Joy o Aberystwyth

Mae Canolfan y Morlan, Aberystwyth yn un o nifer fawr o fannau cynnes sydd wedi'u hagor ar draws Cymru.

Mae nifer o bartneriaid ymhob sir wedi ymrwymo i gynllun Croeso Cynnes - cynllun sy'n cael ei weithredu'n helaeth drwy'r cynghorau sir ac yn cael ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru.

Y nod yw darparu llefydd yn y gymuned lle gall pobl gadw'n gynnes yn sgil prisiau cynyddol ynni.

"Dwi mor falch bod yna fan cynnes wedi agor yma ym Morlan," medd Ann Joy, sy'n byw yng ngogledd y dre.

"I fod yn onest dyw e ddim gymaint â hynny am yr oerfel, mae e'n fan hyfryd i ddod i gael paned ond yn fwy na hynny i gael cwmni.

"Does yna'r un stigma yn perthyn i le fel hyn - man hyfryd i ddod at ein gilydd yw e ac i fi mae gwybod bod lle penodol allai fynd i gael cwmni a chlonc ar ddydd Mercher mor bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Nonna Owen, Eleri Davies, Eifion Roberts, Ann Joy a Shelagh Jones yn mwynhau paned a sgwrs yn Y Morlan ar drothwy'r Nadolig

Ychwanegodd y Parchedig Eifion Roberts o Aberystwyth: "Yma yng Ngheredigion, fel mewn siroedd eraill, mae yna nifer fawr o lefydd bellach.

"A'r hyn i mi sy'n fwyaf pwysig yw nad oes unrhyw stigma ynghlwm wrthyn nhw ac hefyd bod yna amrywiaeth o lefydd."

Yn Llandysul mae man cynnes wedi'i sefydlu yn y Ffynnon ar gyfer pobl sy'n gweithio gartref ar rai dyddiau ac ar gyfer grwpiau oedran penodol ar ddiwrnodau eraill.

Mae'r Ganolfan Deulu yn Nhregaron, yn cynnig dod â rhieni â phlant ifanc a phobl hŷn at ei gilydd i gymdeithasu a rhannu pryd o fwyd.

Mae cyfle i eraill weithio mewn swyddfa gynnes am ddiwrnod - er enghraifft yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Disgrifiad o’r llun,

Y gymdeithas sy'n bwysig hefyd i Gwynfor a Shelagh Jones o Aberystwyth

"Y nod, wrth gwrs, yw bod o gymorth i bobl yn sgil y costau byw ond fydden i'n hoffi bod e'n fwy na hynny," ychwanega Eifion Roberts.

"Be sy'n bwysig i fi yw'r gymdeithas. Yn y Morlan mae modd cael cynhesrwydd, paned a chawl - mae yna groeso i bawb a'r hyn sy'n hyfryd yw bod pawb yn gyfartal, boed yn rhywun sy'n troi mewn, yn wirfoddolwr neu yn ddisgybl ysgol - ac ry'n ni mor falch o gymorth disgyblion Ysgol Penweddig gyda'r gwaith.

"I mi roedd hi'n bwysig o'r cyfnod cyntaf ac i swyddogion CAVO ac eraill nad oedd unrhyw stigma o gwbl. A dwi'n teimlo bod hynny wedi gweithio - mae pobl yn dod yma ac yn mwynhau. Fy ngweddi i yw y bydd yn parhau y tu hwnt i'r gaeaf."

"I mi hefyd y gwmnïaeth sy'n bwysig," meddai Ann Joy. "Roedd cyfnod Covid yn unig iawn - mae mor braf cael cwmni eto. Does gen i ddim llawer o deulu ac mae fy chwaer yn byw yn bell.

"Mae'n hyfryd cael paned a chawl, wrth gwrs, ond fi'n teimlo bo ni'n un teulu mawr yn Y Morlan - y gwirfoddolwyr a phawb yn cymysgu a'i gilydd.

"Be sy'n bwysig bod e'n parhau wedi'r gaeaf - dyw e ddim am gost y gwres yn unig."

"Ry'n ni'n un teulu mawr - heddiw ry'n ni wedi dod yma a ni'n hapus i gael paned neu i wirfoddoli petai angen. Y sgwrs a'r gymdeithas sy'n bwysig," ychwanegodd Gwynfor a Shelagh Jones.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym yn gweithio gyda CAVO i wneud i hyn lwyddo, ond sêr y stori hon yw pob un o'r grwpiau cymunedol ar draws Ceredigion sy'n cynnig Man Croeso Cynnes y gaeaf hwn.

"Rwy'n argymell bod pawb yn edrych ar y map rhyngweithiol sy'n dangos ble gallwch chi ddod o hyd i'ch Man Croeso Cynnes agosaf ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i bawb sy'n cefnogi'r ymgyrch hon."

Lle alla'i ddod o hyd i le cynnes?

Gogledd Cymru

Mae menter gymdeithasol Menter Môn wedi darparu rhwydwaith Croeso Cynnes ar draws siroedd y Gogledd drwy gydlynu gyda sefydliadau eraill. Mae map a gwybodaeth yma, dolen allanol.

Ar Ynys Môn hefyd mae rhai mannau eraill wedi'u rhestru yma, dolen allanol, ac yn ogystal mae canolfan gymunedol Gwelfor yng Nghaergybi a Ffiws Amlwch yn Alwch yn darparu man cynnes.

Mae llyfrgelloedd, dolen allanol Gwynedd yn darparu mannau cynnes ac yn gynnig gweithgareddau, diodydd poeth a chyfle i sgwrsio.

Mae llyfrgelloedd, dolen allanol Conwy hefyd yn darparu man cynnes rhag yr oerfel ac mae byrbrydau a diodydd ar gael ar amseroedd penodol. Ymhlith eraill sy'n darparu cymorth ar ddiwrnodau penodol mae mae canolfannau yn Llandudno, dolen allanol, Penmaenmawr, dolen allanol a Glan Conwy, dolen allanol.

Yn Sir Ddinbych hefyd mae'r llyfrgelloedd, dolen allanol yn rhan o gynllun Croeso Cynnes.

Mae Sir y Fflint wedi darparu map, dolen allanol o leoliadau'r cynllun - ac mae llyfrgelloedd a nifer o sefydliadau eraill yn rhan o'r cynllun.

Yn Wrecsam mae llyfrgelloedd y sir yn rhan o gynllun Croeso Cynnes. Ymhlith llefydd eraill sy'n croesawu pobl mae Caffi Cymunedol, dolen allanol Rhosllannerchrugog ac Eglwys Stryd yr Hôb, dolen allanol yn Wrecsam.

Canolbarth Cymru

Mae Cyngor Ceredigion wedi darparu map, dolen allanol o'r llefydd cynnes sydd ar gael gyda manylion am bob un.

Ym Mhowys mae rhestr, dolen allanol o bob sefydliad sy'n rhan o'r cynllun ar wefan y cyngor sir.

De orllewin Cymru

Mae cynghorau siroedd Penfro, dolen allanol a Chaerfyrddin wedi darparu map o'r llefydd sy'n cynnig man cynnes ar eu gwefan.

Mae'r rhestr o'r sefydliadau sy'n cynnig mannau cynnes yn sir Abertawe i'w gweld yma, dolen allanol a dyma'r rhestr, dolen allanol o'r mannau ar gyfer sir Castell-nedd Port Talbot.

De ddwyrain Cymru

Yn sir Pen-y-bont mae rhestr gyflawn, dolen allanol fesul ardal olefydd sy'n cynnig lle cynnes ar gael a dyma'r wybodaeth ar gyfer Bro Morgannwg, dolen allanol.

Yn Rhondda Cynon Taf mae rhestr o'r sefydliadau sy'n rhan o'r cynllun wedi'i nodi yma, dolen allanol.

Ym Merthyr Tudful mae nifer o lyfrgelloedd, dolen allanol yn rhan o'r cynllun ynghyd â chanolfannau eraill.

Mae nifer o fannau cynnes hefyd yn siroedd Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy - y manylion ar wefan pob cyngor.

Yng Nghaerdydd mae Refugee Cardiff wedi darparu rhestr, dolen allanol ac mae rhestr bellach, dolen allanol wedi'i darparu gan Weinidogaeth Dwyrain Caerdydd gan nodi'r mannau cynnes sy'n estyn croeso yn Llanedern, Llanrhymni a Llaneirwg.

Pynciau cysylltiedig