Bangor: Saer, 18, wedi marw ar ôl i fwrdd plastr syrthio arni - cwest

  • Cyhoeddwyd
Chloe BidwellFfynhonnell y llun, Coleg Menai
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna deyrngedau lu i Chloe Bidwell, a fu farw yn 18 oed

Mae cwest wedi clywed y bu farw saer 18 oed o Ynys Môn ar ôl i fwrdd plastr syrthio arni.

Roedd Chloe Bidwell o Fae Trearddur wedi bod yn gweithio mewn tŷ oedd yn cael ei adnewyddu yng nghanol Bangor ar 20 Rhagfyr.

Clywodd agoriad cwest yng Nghaernarfon fod ambiwlans wedi ei alw am 18:48, gan gyrraedd pedwar munud yn ddiweddarach.

Daeth criwiau brys o hyd i Chloe yn y cyntedd, ond bu farw cyn y bu modd ei chludo i'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu yn bresennol ar Ffordd Deiniol ym Mangor wedi'r digwyddiad

Dywedodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley wrth y gwrandawiad yng Nghaernarfon: "Mae Coed Celyn ar Ffordd Deiniol yn eiddo preswyl oedd yn cael ei adnewyddu, ac felly yn safle adeiladu.

"Dywedwyd yn yr alwad gychwynnol i Heddlu Gogledd Cymru fod dynes wedi ei chanfod yn anymwybodol yn y cyntedd, ac roedd yn ymddangos fod bwrdd plastr (plasterboard) wedi disgyn ar ei chefn."

Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad fod Chloe Bidwell wedi marw o anafiadau i'w gwddf.

Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Pynciau cysylltiedig