Storm Henk: Rhybuddion llifogydd yn parhau

  • Cyhoeddwyd
llifogydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A4139 ynghau ger Dinbych-y-pysgod oherwydd llifogydd

Mae'r tywydd garw yn parhau i gael effaith ar Gymru ddydd Mercher, gydag amryw o rybuddion llifogydd yn parhau mewn grym.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi, dolen allanol rhybudd difrifol o lifogydd - sydd â risg i fywyd - wrth barc carafanau Kiln Park wrth Afon Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod.

Mae 8 rhybudd arall am lifogydd mewn grym, sy'n cynnwys o amgylch Afon Hafren yn y canolbarth, afonydd Gwy ac Wysg yn y de-ddwyrain, ac Afon Tywi yn y de-orllewin.

Mae degau o rybuddion llai difrifol mewn grym, ac amryw o ffyrdd ynghau ar draws Cymru am eu bod dan ddŵr.

Mae'r rheiny'n cynnwys yr A490 a'r A483 ym Mhowys, a bu'r A4118 ynghau ym mhenrhyn Gŵyr hefyd.

Mae'r bont dros Afon Teifi yn Llechryd - rhwng Ceredigion a Sir Benfro - hefyd ynghau "am resymau diogelwch y cyhoedd wedi i lefel yr afon achosi llifogydd ar y briffordd".

Disgrifiad o’r llun,

Ffordd o dan ddŵr yn Ninbych-y-pysgod

Daw wedi i ddŵr fynd i nifer o dai yn ardal Porth Tywyn yn Sir Gâr ddydd Mawrth wrth i Storm Henk daro Cymru.

Ond mae disgwyl i bethau wella yn ystod dydd Mercher, gyda rhybuddion tywydd garw y Swyddfa Dywydd wedi dod i ben ers nos Fawrth.

Mae disgwyl i'r tywydd garw effeithio ar wasanaethau trenau, gydag amharu eisoes ar wasanaethau Calon Cymru, rhwng Henffordd a Chasnewydd, a rhwng Abertawe a Paddington yn Llundain.

Dywedodd y gwasanaethau tân ac achub nad oedd unrhyw ddigwyddiadau o bwys dros nos o ganlyniad i'r tywydd.

Pynciau cysylltiedig