Fferm solar gymunedol yn 'hollbwysig' i fusnesau Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae fferm solar gymunedol wedi bod yn hollbwysig i fusnesau yn Abertawe allu goroesi, yn ôl y perchnogion.
Y fferm solar yn ardal Dyfnant yw'r gyntaf yng Nghymru i fod yn berchen i'r gymuned, ar ôl i drigolion Abertawe fuddsoddi yn y cynllun.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn y prosiect hefyd.
Ers ei sefydlu yn 2017 gan Gwmni Trydan Gŵyr mae bron i 4,000 o baneli solar yn pweru 1 megawat o drydan, sy'n ddigon i bweru dros 300 o dai a busnesau.
Mae'r elw sy'n cael ei wneud yn cael ei wario ar brosiectau i helpu'r gymuned neu yn cael ei ddefnyddio i leihau biliau ynni eu cwsmeriaid.
Un busnes lleol sydd wedi elwa o'r fferm solar yw Canolfan Iechyd y Dyniaethau.
Maen nhw'n cynnal gweithdai celf i blant ac oedolion ar hanes ardal Gŵyr a phwysigrwydd gwarchod yr amgylchedd.
'Helpu gyda chostau rhent'
Yn ôl Cadi Poulton, sy'n gweithio yn y ganolfan, mae'r cyllid o'r fferm solar yn golygu eu bod nhw'n gallu parhau i gynnig sesiynau am bris isel.
"Mae'n helpu ni i redeg y lle fan hyn. Mae'r arian o'r fferm solar yn helpu gyda chostau rhent ar hyn o bryd ac yn rhoi cyfleoedd i ni i gadw prisiau ein gweithdai yn isel.
"Ni'n cael adborth gan gwsmeriaid sy'n dweud mai dyna'r rheswm pam maen nhw'n dod atom ni yw oherwydd bod ein prisiau yn reasonable.
"Ni eisiau cael pobl a phlant o bob math o gefndiroedd gwahanol yma ac mae'r cymorth o'r fferm solar yn helpu ni i wneud hynny."
Mae Rachel Webb, cyd-gyfarwyddwr y ganolfan, yn dweud bod cael cymorth yn hynod o bwysig iddyn nhw.
"Mae costau popeth mor uchel ar hyn o bryd felly mae gallu cael arian tuag at dalu rhent mor bwysig i ni," meddai.
Ychwanegodd bod y cymorth yn helpu sicrhau bod modd i'r busnes oroesi, a bod modd iddyn nhw barhau i gynnig y gwahanol weithdai.
Un safle arall sydd wedi derbyn cymorth yw'r sinema leiaf yng Nghymru, La Charette, a gafodd ei hachub gan Ganolfan Dreftadaeth Gŵyr yn 2008.
"Mae gan y sinema yma shwd gymaint o hanes," medd Sami Bryant, sy'n gweithio yno.
Fe agorwyd y sinema yn y 1950au gan ddyn lleol o'r enw Gwyn Phillips, ac mae enwogion fel John Wayne wedi ymweld â'r sinema fach.
Cafodd ei symud o Orseinon yn 2008 a chafodd ei rhedeg gan griw o wirfoddolwyr, ond yn anffodus doedd hynny ddim yn ddigon i gynnal y lle.
"Roedd angen llawer o waith i gael e i edrych fel y mae'n edrych heddiw," meddai Mr Bryant.
"Ni wedi cael seddi hollol newydd, roedd angen i ni ei insiwleiddio, felly roedd yna lot o waith drud i'w wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023