Busnesau Abertawe yn galw am drenau hwyrach o'r ddinas

Scott Mackay
Disgrifiad o’r llun,

Mae Scott Mackay yn dweud bod ei far yn colli busnes gan fod pobl yn gorfod rhuthro i ddal y trenau olaf

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau yn Abertawe yn dweud eu bod nhw’n colli miloedd o bunnoedd oherwydd y gwasanaeth trên yn y ddinas.

Mae lleoliadau cerddoriaeth yn dweud bod angen i drenau redeg yn hwyrach yn ôl i’r dwyrain i lefydd fel Caerdydd, a bod ymwelwyr yn "rhuthro i ffwrdd" er mwyn dal y trên olaf ar hyn o bryd.

Yn ôl un arbenigwr, mae angen buddsoddi yn y gwasanaeth yn y ddinas i ddenu mwy o ymwelwyr a busnesau.

Mewn ymateb fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru bod ganddo'r uchelgais hirdymor i ychwanegu gwasanaethau hwyrach o Abertawe i Gaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae perchnogion busnesau yn Abertawe yn poeni eu bod yn colli arian oherwydd diffyg trenau hwyr

Os ydych chi am deithio i’r dwyrain i lefydd fel Castell-nedd, Penybont-ar-Ogwr neu Gaerdydd o Abertawe ar nos Wener, mae’r trên olaf yn gadael y ddinas am 22:32.

Ond, os yn teithio i’r gorllewin yn ôl o Gaerdydd er enghraifft, mae trenau yn rhedeg tan 01:00.

Yn ôl Scott Mackay, rheolwr oriel a bar Elysium ar y stryd fawr ger gorsaf Abertawe, mae hyn yn cael effaith negyddol ar faint o bobl sy’n gallu mwynhau noson allan yn y ddinas.

'Colli mas ar gwsmeriaid ac arian

"Mae’n meddwl bod ni’n colli mas ar lawer o fusnes ac arian achos mae pobl yn gorfod rhuthro i ffwrdd," meddai.

"Os chi’n mynd i weld sioe yn yr arena, er enghraifft, mae llawer o opsiynau i fynd i gael bwyd neu ddiod ar ôl, ond achos yr amserau trên, ni’n colli mas ar y cwsmeriaid yna ac felly yn colli mas ar arian.

"Mae llawer o fusnesau independent ar y Stryd Fawr yn arwain i’r orsaf drên, ac rydyn ni i gyd yn teimlo’r un peth.

"Bydda i yn gofyn i Drafnidiaeth Cymru roi mwy o drenau arno - mae’n syml.

"Rydyn ni gyd yn colli busnes oherwydd hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Ar nos Wener, mae'r trên olaf i'r dwyrain yn gadael Abertawe am 22:32

Mae Stuart Ackland yn berchen ar far Hippos, hefyd ar y Stryd Fawr.

"Ni yw’r bar agosaf i’r orsaf trên, oni bai am y gwesty ar y gornel," meddai.

"Mae posibilrwydd i ni i allu cael lot o fusnes wrth bobl sy’n cerdded heibio i fynd i’r orsaf, ond mae lot o bobol yn gorfod bod ar y trên ar gyfer y gwasanaeth olaf i’r dwyrain erbyn 22:30.

"Felly os ni gyda gig fan hyn, efallai mae pobl yn gallu aros i weld y perfformwyr sydd arno gyntaf, ond wedyn mae'n rhaid iddyn nhw adael cyn y perfformiad olaf i allu dal y trên.

"Dyna’r unig ffordd maen nhw’n gallu mynd adref os maen nhw 'di bod yn yfed, oni bai bod nhw’n aros mewn gwesty, ond wedyn mae hynny’n mynd yn ddrud.

“Ni’n cael pobl mewn pob wythnos yn gofyn pa amser ma' hwn arno, a wedyn ni’n dweud yr amser, ond ma' nhw’n gorfod gadael a pheidio ymuno gyda ni oherwydd yr amserau trên.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Stuart Cole yn credu y byddai trenau hwyrach yn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Yn ôl yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, mae diffyg trenau hwyr yn mynd yn groes i gynlluniau Llywodraeth Cymru, sydd eisiau gweld mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae pobl yn mynd mewn i Abertawe, i theatr y Grand neu lefydd arall, ac mae’r sioeau yna yn gorffen am 22:30 neu 23:00," meddai.

"Felly os ydy’r trên diwethaf am 22:30, bydd pobl yn dod mewn yn y car a gadael yn y car.

"Dydyn nhw ddim yn defnyddio’r trên o gwbl, a dyna beth mae pawb yn treial cael pobl i wneud, perswadio nhw.

"Ond os nad ydy’r gwasanaeth yn gyfleus i nhw, bydd pobl ddim yn defnyddio’r trenau neu’r bysus."

Mewn ymateb dywedodd Trafnidiaeth Cymru: "Fel rhan o'n hymrwymiad ni i wella gwasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, mae gennym ni uchelgais hirdymor i ychwanegu gwasanaethau hwyrach o Abertawe i Gaerdydd.

"Mae’r newidiadau hyn yn dibynnu ar gael yr hawliau sydd ei angen gan Network Rail, i sicrhau nad yw trenau hwyrach yn effeithio ar waith cynnal a chadw’r rheilffordd dros nos."

Pynciau cysylltiedig