Pum munud gyda'r actor Gwion Tegid
- Cyhoeddwyd
Mae dihiryn y gyfres Rownd a Rownd, Barry Hardy, yn y carchar ar hyn o bryd ac mae o 'nôl ar y sgrin yn y ddrama garchar newydd, Bariau.
Ond faint wyddoch chi am Gwion Tegid, yr actor sy'n chwarae rhan Barry Hardy ers ei fod yn 13 mlwydd oed? Dyma gyfle i ddod i'w adnabod.
Pryd ddechreuaist ti actio cymeriad Barry Hardy yn y gyfres Rownd a Rownd? Ydy delwedd 'hogyn drwg' y cymeriad wedi creu trafferth i ti yn dy fywyd 'go iawn' fel Gwion Tegid?
Ddaru mi gychwyn actio ar Amdani yn 1997, gyda'r un cwmni oedd yn cynhyrchu Rownd a Rownd ar y pryd sef Ffilmiau'r Nant. Felly mi oeddwn i'n chwe oed yn dechrau fel Eilir; mab i Ffion Dafis a Robin Eiddior ym Methesda ac wedi chwe chyfres o Amdani fe fues i'n ddigon ffodus i gael transfer i Rownd a Rownd yr wythnos cyn i mi droi'n dair-ar-ddeg.
Pwy fysa'n meddwl y baswn i'n dal i bortreadu Barry Hardy ugain mlynedd yn ddiweddarach?!
Roedd actio'r hogyn drwg yn medru achosi trafferth pan oeddwn i'n ifanc, yn enwedig ar gae pêl-droed ambell dro.
Pwy sydd wedi dylanwau arnat yn dy yrfa?
Dros y saith mlynedd ar hugain ddiwethaf mi ydw i wedi gweithio gyda cynifer o actorion ac aelodau o griwiau anhygoel sydd wedi fy nylanwadu.
Ges i fy magu ar set fwy na heb, fel ddudodd ffrind i mi fu'n fisitio unwaith: "bechod, ti'm yn gwbod yn wahanol nagwyt?" Ha!
Mae pawb o dîm Rondo wedi fy siapio fel person, pawb o bob adran wedi addysgu fi dros y blynyddoedd. Mi ydw i wedi gweithio efo ambell i aelod o'r criw bob blwyddyn ers yr oeddwn i'n chwe oed - Iwan Môn ac Aled Gray.
Rondo hefyd sydd wedi rhoi cyfle i mi gyfarwyddo, sgriptio a storïo am y tro cyntaf. Mi ydw i mewn dyled i Bedwyr Rees am yr holl gyfleoedd yma sydd wedi ehangu fy ngyrfa, ac wrth gwrs fo greodd y cymeriad Barry Hardy!
Mae Barry Hardy wedi ei garcharu am bedair blynedd yn y gyfres Bariau. Faint o ymchwil wnest ti er mwyn portreadu carcharor?
Tra'n ymchwilio ar gyfer y rhaglen fe ges i'r cyfle i sgwrsio gyda cyn-garcharwyr, wardeiniaid a swyddogion carchardai. Mi oedd y sgyrsiau yma'n help mawr tra'n ceisio portreadu'r anobaith yn y carchar.
Dy hoff atgofion o Rownd a Rownd?
Mae'n amhosib dewis atgofion penodol dros gyfnod mor hir.
Fues i'n ddigon ffodus i gael gwneud stynts, cydweithio efo actorion gwych yn ogystal â'r holl brofiad bywyd. Mae saethu nos yn ystod yr haf pan oeddwn i'n fy arddegau yn dod ag atgofion melys i'r cof. Nosweithiau hir, cynnes efo ffrindiau yn 'gweithio' a chael hwyl… ond efallai fy mod i'n rhamantu'r cyfnod oherwydd bod hi'n oer a gwlyb a finna'n hen ac efo cyfrifoldebau erbyn hyn!
Rwyt ti'n un o gyfarwyddwyr y cwmni cynhyrchu Docshed ac fe enillodd y ddrama-ddogfen a gynhyrchaist, Y Parchedig Emyr Ddrwg, wobr BAFTA Cymru. Beth sydd orau gen ti - actio neu gynhyrchu?
Fe gafon ni flwyddyn gyntaf lwyddianus iawn gyda Docshed. Fe gynhyrchon ni nifer o raglenni dogfen, ac wrth gwrs curo BAFTA am Y Parchedig Emyr Ddrwg oedd penllanw y flwyddyn honno.
Mae fersiwn ffilm o'r ddogfen The Rev ar gael rŵan ar nifer o blatfformau ffrydio, yn cael ei ddosbarthu gan gwmni Kaleidoscope. Tydw i'm yn siŵr beth sydd orau gen i; fydda i'n newid fy meddwl yn amlach nac ydw i'n newid fy swydd! Pan yn creu rywbeth fel Bariau, yna actio sydd orau gen i - ond wedyn pan fyddai'n ganol cynhyrchu rhaglen ddogfen yna mi ydw i'n bendant mai dyna sydd orau gen i.
Fues i'n storïo eto diwedd y flwyddyn, hwnnw 'di'r job orau pan fyddai wrthi. Rydw i wedi bod yn cyfarwyddo cryn dipyn dros y deunaw mis diwethaf…digwydd bod dyna rydw i'n gwneud ar hyn o bryd yn ôl yn Rownd a Rownd. Felly, ar y funud, cyfarwyddo sydd orau gen i!
Beth fyddai dy gyngor i unrhyw ddarpar actor Cymraeg?
Gwerthfawrogi holl waith pob adran o'r criw cynhyrchu, dysgu a deall beth ydi rôl pob unigolyn o'r tîm.
Rwyt ti'n gymar i'r ffotograffydd Kristina Banholzer ac mae gennych ddau o blant, Greta a Nico. Mae dy waith dithau a Kristina yn ddibynnol ar gomisiynau, ydy hynny yn creu ansicrwydd a sut fyddwch chi'n delio gyda'r ansicrwydd hynny?
Yndi! Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i'r sector, yn enwedig yng Nghymru efallai - ond mae Docshed yn edrych 'mlaen i ail-afael ar bethau.
Mi yda ni'n un o'r nifer o gwmnïau bychain sydd wedi cael cynhyrchu rhaglenni i S4C sydd wedi bod yn llwyddianus yng Nghymru ac erbyn hyn ar gael yn fyd-eang. Mae gennym ni gwpwl o raglenni a ffilm wedi'u datblygu, gan obeithio gorffen cynhyrchu rhain eleni a chyfrannu at lwyddiant y sianel wrth i'r gwch hwylio at ddyfroedd tawelach.
Tydw i'm yn meddwl mai fi a Kristina ydi'r bobl ora' i holi am ddelio efo ansicrwydd ariannol... mewn misoedd llewyrchus fe yda ni'n gwario, a mewn misoedd tawelach tydan ni ddim yn gwario! Fe fyddwn ni wastad yn ceisio defnyddio'r cyfnodau tawelach i dreulio gymaint o amser â phosib efo'r plant. Mae'r pleser yna'n ddigon i wneud i rywun anghofio am unrhyw ansicrwydd!
Beth fyddai dy ddiwrnod delfrydol?
Rywle efo haul, dwi'n casáu'r gaeaf. Mynd am workout cynnar. Nofio efo'r plant mewn pwll neu'n y môr. Wedyn mynd am ginio hir yn edrych ar draeth. 'Sgodyn mawr yn ganol y bwrdd, papas arrugadas, mojo rojo a verde a salad syml. Efo ffrindiau a theulu yn yfed galwyni o win gwyn oer. Dyna fo. Dwi'm yn gofyn am lawer nadw?
Beth sydd gen ti ar y gweill nesaf?
Cyfarwyddo Rownd a Rownd am y mis nesaf. Dim byd mis Mawrth ac Ebrill ar hyn o bryd (yr ansicrwydd) felly codwch ffôn, dwi'n rhydd! Wedyn mi fydda i'n cyfarwyddo rhywbeth arall, ond ddim yn siŵr os ga i sôn am hynny eto.
Gobeithio y byddwn ni'n cael saethu ail gyfres o Bariau dros yr haf. Roedd saethu'r gyfres ddiwethaf yn brofiad mor dda, gymaint o hwyl - fe fyddai cael haf felly eto yn wych!
Hefyd o ddiddordeb: