Ateb y Galw: Huw Roberts
- Cyhoeddwyd
Y cerddor gwerin o Ynys Môn, Huw Roberts, sy'n ateb ein cwestiynau yr wythnos hon.
Mae Huw yn adnabyddus iawn am chwarae'r ffidl a'r delyn deires ac wedi chwarae mewn amryw o fandiau fel Pedwar yn y Bar. Mae hefyd yn awdur ac yn hanesydd am draddodiadau cerddoriaeth gwerin Cymru.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Un dwi'n gofio ydi torri fy ngwallt am y tro cynta' efo fy nhad. Mynd i siop barbwr Huw Lloyd yn Llangefni - oedd o'n dipyn o lejand yn Llangefni. O'n i'n ifanc iawn, ma'n siŵr cyn imi ddechrau yn yr ysgol. 'Nath fy nhad ddod â phapur a phensal imi ddefnyddio tra'n aros, a dwi'n cofio rhyw ffarmwr yn canmol y llun. Oedd gan Huw Lloyd set arbennig i blant ista arni tra oedd o'n torri eu gwallt nhw.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ochrau'r Porthaethwy. Fydda i'n mynd lawr efo'r ci yn aml i gerdded drwy'r coed lawr at Eglwys Tysilio ger y Fenai, a cerdded ar hyd y Belgian Promenade ac o dan y bont, ac wedyn heibio'r tai bach 'na ar lan y Fenai a fyny trwy Borth ac i nol am y maes parcio ger y goedwig.
Mae gen i lefydd eraill hefyd, fel Mynydd Bodafon, Mynydd yr Arwydd. Unwaith ma' dyn yn cerdded i fyny i Mynydd yr Arwydd mae posib cael golygfa 360° o Ynys Môn ac Eryri, a draw am y Gogarth. Dwi 'di mynd â lot o bobl sy'n ymweld yno os di hi'n braf iddyn nhw cael gweld Môn yn ei gogoniant.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Rhai blynyddoedd yn ôl oedden ni'n perfformio efo'r grŵp dawns Ffidl Ffadl yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Yn ystod cystadleuaeth corau'r byd oedd hi, ac roedden nhw'n cael eitemau gwahanol cyn y canlyniad a'r feirniadaeth, ac roedd y pafiliwn yn orlawn ac mae'r gymeradwyaeth a gafon ni y noson honno yn aros yn y cof.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymdeithasol, gwladgarol ac hiraethus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
O'n i'n siarad yn gynharach am dorri'n ngwallt mewn barbwr. Wedi i mi briodi Bethan roedd y wraig am i mi dorri'n ngwallt mewn hairdressers, dim barbwr, felly es i efo hi - do'n i 'rioed 'di bod o'r blaen.
Fi oedd y cyntaf i gael fy ngalw fyny, a 'nath na rhyw foi dweud 'thai yn Saesneg bod o isio golchi fy ngwallt i. Ac be welis i o'n mlaen i oedd dau sinc, a chadair o flaen bob sinc. O'n i heb weld sinc fel hyn o'r blaen, oedd 'na fel siâp toriad yn y sinc.
Dros y ffordd oedd 'na ddwy ddynes yn cael sychu'i gwalltia efo'r hair dryers mawr 'ma ac yn darllen cylchgrawn neu rwbath.
Nath y boi torri gwallt ddeud wrtha i "choose one" imi fynd i eistedd. Adra pan o'n i'n golchi'n ngwallt o'n i'n rhoi fy mhen i lawr yn y sinc a torchi llewys, ac o'n i di cal fy'n hun yn barod a rhoi fy nhei i fewn yn fy nghrys. Ac yn lle eistedd yn y gadair a rhoi fy mhen yn ôl, be 'nes i oedd mountio'r gadair efo'n nhin yn yr awyr! Doddna'm byd yn digwydd am oria, a'r merched ma'n chwerthin, a 'nes i droi i sbio'n ôl a dyma'r boi torri gwallt yn dweud "Sir, you're meant to sit on it!"
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae'r stori uchod yn un, ond dwi'n meddwl 'nath o godi mwy o gywilydd ar y wraig dwi'n meddwl!
Stori arall oedd pan o'n i'n hogyn, o'n i'n mynd rownd yr Eisteddfodau i gystadlu yn y piano neu ar y ffidl. O'n i'n Eisteddfod Llanbedrgoch ar un achlysur pan o'n i tua 11 neu 12 yn cystadlu efo'r ffidl. O'n i 'di mynd a stand efo fi a bues i am hydoedd yn trio cael y peth i agor, achos ma nhw'n gallu bod yn betha' anodd os di nhw'n mynd yn gam. Treulies i fwy o amser yn trio gwneud y stand miwsig yn iawn nac oedd y darn miwsig yn ei gymryd, ac o'n i'n dechrau teimlo'n annifyr ar y llwyfan, yn diwedd 'nes i fanagio.
Dwi'n cofio'r feirniadaeth gan y beirniad oedd bod o 'di gweld boi tebyg ar draeth Benllech unwaith yn trio agor deckchair, ac odd o'n meddwl amdana i felly'n cael trafferth, ac o'n i'n embarrassed ar y llwyfan.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'm yn gwbod i ddweud y gwir. 'Nes i wneud ar ôl colli fy rieni, ond falle bod gen i stori crio digon digri mewn ffordd.
'Da ni'n mynd â'r ci i'r cenals pryd 'da ni'n mynd ar wyliau, ma'n le da a 'da ni 'di gwneud sawl gwaith. Ond un tro pan oedden ni'n mynd i Ffrainc neu rwla, 'nathon nhw rhoi'r golar i mi a 'nes i fynd i'r car a'i roi ar y set passanger. Pan o'n i'n dreifio 'nes i sbio ar y golar a dyma fi'n cael hiraeth ofnadwy am y ci bach a 'nes i feichio crio wrth y llyw tra o'n i'n gyrru. Oedd 'na rwbath wedi taro nerf yn rwla.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi byth a beunydd pan dwi yn y tŷ methu ffeindio'n ffôn symudol neu weithiau goriadau car. Dwi fanno'n stressio, yn stressio pawb arall allan yn y tŷ, yn enwedig y wraig, a mae'n mynd yn ffrae weithiau. Ac mae hi, a ma hyn yn fy ngwylltio i, yn ffeindio nhw mewn chwinciad chwannen - y ffôn neu'r goriadau. Dwi'n falch bo hi yn ffeindio nhw, ond ma hi'n cal one-up arna i!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Y llyfr mae'n debyg, am mod i'n chwarae'r delyn deires ac yn ymddiddori yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru, ydi Cerdd Dannau gan Robert Griffith. Cafodd y llyfr ei chyhoeddi jest cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Be 'di o ydi hanes cerddoriaeth traddodiadol Cymru, y caneuon a'r alawon a'r offerynnau Cymreig - y crwth, y pibgorn a'r delyn deires ayyb.
Be' sy' ynddo fo hefyd ydi toreth o wybodaeth am y niferoedd lawer o delynorion Cymreig dros y canrifoedd, yn enwedig yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Mae hwn i mi, fel rhywun sy'n ymchwilio i hanes y telynorion a'r traddodiad, wedi bod fel rhyw Feibl fel petai, ac 'di sbarduno sawl gwaith ymchwil i mi.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Sôn am telynorion, fe sgwennis i lyfr am delynorion Llannerch-y-medd - teulu y dafarn Britannia yno. Ar hyn o bryd mae gen i arddangosfa yn Oriel Môn, gyda tair hen delyn deires yno, a fel ti'n mynd i fewn i'r arddangosfa dwi 'di chwyddo llun o un o delynorion Llannerch-y-medd, sef Owen Jones, Telynor Seiriol. Roedd o'n dipyn o gymeriad, yn delynor gwych, ac o ran hynny mi fyswn i'n licio cyd-chwarae efo fo a chael dysgu rhai o'r alawon. Ond hefyd roedd o'n hoff iawn o'i ddiod ac felly dwi'n meddwl fysan ni'n cael sesiwn reit dda dwi'n meddwl; y cyd-chwarae a chael peint.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Wel, mae pobl yn fy 'nabod i fel Huw y ffidlwr neu'r telynor, ond does fawr o neb yn gwybod pan o'n i'n hogyn o'n i'n arfer canu'r organ yng Nghapel Smyrna, Llangefni. Doeddwn i ddim yn fawr o organydd, ac i ddweud y gwir roedd yr athrawes biano o'n i'n gael yn mynd i'r un capel ac yn annog i ni gyfeilio ac o'n i ddim yn licio hynna.
Fues i 'rioed yn un da am ddarllen y sharps a'r fflats yn yr emynau, ac o'n i'n dewis emynau fy hun - ges i'n nal allan ambell waith efo emynau do'n i ddim yn 'nabod, ma'n siŵr bo fi 'di gwneud lot o bum notes fel ma nhw'n dweud yn Saesneg.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
'Sa sgwâr Llangefni yma i'w glirio o geir a chael uffar o sesiwn werin enfawr efo fy holl ffrindiau, teulu, a pawb dwi 'di cyd-chwarae efo dros y degawdau o Gymru a thu hwnt. Mi fysa hi'n sesiwn fawr, gyda'r bwyd yn dod o tu cefna ni'n y Bull, a noson braf efo digon o ganu, dawnsio a thwmpath, yn ffidlio a gyda thelynau, bob math o offerynnau.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mae 'na lun o fy hen daid a nain, sef taid a nain fy mam. Ei enw o oedd Hugh Jones, a hithau'n Ellen Jones. Cefais fy enwi ar ol fy hen daid (Hugh Jones). Roedden nhw'n byw yn Pen Parc, Rhosmeirch, a dwi'n cofio nhw'n iawn - roeddwn i yn fy arddegau pan 'nathon nhw farw, ac roedden nhw'n ddau annwyl dros ben. Roedd gen i gryn feddwl o'r ddau ohonyn nhw.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Gai ddewis fi fy hun yn fengach? Yn arddegau hwyr i ugeiniau cynnar...I 'neud be fedra i ddim gwneud heddiw - henaint, ni ddaw ei hunan!
Hefyd o ddiddordeb: