Apêl heddlu am ddynes ar goll ym Mangor Is-coed
- Cyhoeddwyd
![Cafodd Lucy Charles, 39, ei gweld ddiwethaf nos Wener cyn y Nadolig](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/174F8/production/_132208459_3bd77d0b-37b8-4561-984f-5ee4e0c40ddf.jpg)
Cafodd Lucy Charles, 39, ei gweld ddiwethaf nos Wener cyn y Nadolig
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio o'r newydd am wybodaeth am ddynes 39 oed o Fangor Is-coed ger Wrecsam sydd wedi bod ar goll ers 22 Rhagfyr.
Cafodd Lucy Charles ei gweld ddiwethaf gan gamera cylch cyfyng yn cerdded ar hyd Ffordd yr Orsaf yn y pentref am 17:34.
![Lucy Charles](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DCA0/production/_132208465_lucy_image1.jpg)
Mae plismyn bellach wedi datgelu bod eiddo personol Lucy wedi cael eu canfod ar lan Afon Dyfrdwy - yn agos i'r gwaith trin dŵr.
Ers iddi fynd ar goll mae hofrennydd yr heddlu a'r tîm chwilio o dan ddŵr wedi archwilio'r ardal yn drylwyr, a hynny yn ystod tywydd garw.
Mae Lucy Charles yn 5 troedfedd 6 modfedd o ran taldra, mae ganddi wallt brown hyd at ei hysgwyddau, mae'n gwisgo sbectol ac roedd hi'n gwisgo siaced lachar.