Cardiau post i groesawu mewnfudwyr Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae'n bwysig fod pobl sy'n symud i Geredigion yn cael croeso ac yn dysgu am iaith a diwylliant y sir, medd y cyngor lleol.
I hwyluso hynny fe fydd cardiau post 'Croeso i Geredigion' yn cael eu rhannu ymysg mewnfudwyr.
Y gobaith yw "grymuso cymunedau" gan ddangos sut mae'r Gymraeg yn gwau'n naturiol i fywyd y sir a pha gyfleoedd sydd ar gael i gyfrannu a chefnogi'n lleol.
Roedd Cyfrifiad 2021 yn dangos bod tua 32,000 (45.3%) o bobl yn siarad Cymraeg yng Ngheredigion - y gyfradd genedlaethol yw 17.8%.
Mae'r prosiect 'Croeso i Geredigion' yn cael ei gynnal gan Cered (Menter Iaith Ceredigion) Cyngor Sir Ceredigion, trwy nawdd Cynnal y Cardi.
I ddechrau bydd y cynllun yn cael ei dreialu yn ardaloedd Llansanffraid, Ceinewydd a Thregaron.
Bydd y cymunedau hyn yn cael cyflenwad o gardiau post 'Croeso i Geredigion' yn seiliedig ar fap wedi'i ddylunio gan yr artist lleol Lizzie Spikes.
Bydd y cardiau yn cael eu dosbarthu i gartrefi pobl sydd wedi symud i'r ardal.
Ar gefn y cerdyn post bydd cod QR a fydd yn rhoi mynediad at e-lyfr newydd yn llawn gwybodaeth am iaith a diwylliant Ceredigion.
'Ysbrydoliaeth i eraill yn y sir'
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, aelod cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am ddiwylliant: "Ein nod gyda'r prosiect hwn yw sicrhau bod pobl sy'n symud i'r sir yn cael eu croesawu a'u cyflwyno at rinweddau naturiol y sir, gan ddysgu am ei hiaith a'i diwylliant.
"Gobeithio bydd cymunedau Llansanffraid, Cei Newydd a Thregaron yn ymgymryd yn llwyddiannus â'r prosiect cyffrous hwn, gyda chymorth Menter Iaith Cered, ac y bydd yn ysbrydoliaeth i eraill ledled ein sir."
Ychwanegodd ar raglen Dros Frecwast bod ardal Ceinewydd a Llan-non wedi gweld mewnlifiad mawr ac mai'r nod "yw bod yn groesawgar yn lle bo' ni'n beirniadu pobl am beidio dysgu'r Gymraeg neu beidio bod yn ymwybodol o'r iaith".
"Yn lle hynny 'dan ni'n mynd ati yn weithredol i'w croesawu nhw a'u cyflwyno i'r Gymraeg," meddai.
"Felly byddwn ni'n cyflwyno cerdyn sionc iawn gyda map deniadol o'r sir a'r syniad sylfaenol yw na fyddech yn taflu'r garden - dwy hi ddim yn edrych yn gorfforaethol.
"Mae'n garden ddeniadol o'r sir i'w chadw - a thrwy gyfrwng y cod QR mae'n rhoi esboniad am y Gymraeg, am bwysigrwydd y Gymraeg i'r rhai sy'n ei siarad hi yn y sir ac mae gwybodaeth hefyd am addysg Gymraeg a chymorth i bobl busnes.
"Cynllun peilot yw e i ddechrau a'r gobaith yw y bydd pobl leol yn gwybod lle mae tai wedi'u gwerthu a phwy sy' wedi symud mewn.
"Os chi'n mynd â'r garden chi'n gwneud cyswllt uniongyrchol gyda phobl sydd wedi symud mewn a bydd sgwrs fach wedyn, gobeithio, ar stepen y drws. Mae'n groeso gwirioneddol wedyn."
Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Phillips, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llansanffraid: "Mae'r cyngor cymuned yn falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect hwn.
"Mae trigolion pentref Llan-non yn bobl groesawgar ac yn eiddgar i estyn croeso cynnes i newydd-ddyfodiaid i'r pentref a chyflwyno holl gyfoeth y Gymraeg iddynt."
Yn 2022 roedd yna groeso twymgalon yn Nhregaron wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r dref.
Wrth gyfeirio at y cynllun cardiau post dywedodd y Cynghorydd Arwel Jones, Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron: "Mae hyn yn gyfle arbennig i ni hyrwyddo'r Gymraeg i bobl sydd newydd symud i Dregaron ac i ddangos yr holl bethau ffantastig sy'n cael eu cynnal yn yr ardal.
"Mae'r cyngor yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Cered i gymryd rhan yn y prosiect blaengar hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Awst 2022