Ceredigion yn ystyried cyfyngu ar nifer ail gartrefi'r sir
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Ceredigion yn ystyried cyfyngu ar nifer yr ail gartrefi yn y sir i geisio darparu tai i bobl ifanc, yn ôl yr arweinydd newydd.
Fe ddywedodd Bryan Davies wrth Newyddion S4C y gallai ail dai ychwanegol gael eu gwrthod, ond mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru eisoes wedi dweud na fyddai gosod uchafswm yn syniad da.
Dros gyfnod o bum mlynedd rhwng diwedd 2016 a 2021, fe gododd prisiau tai yng Ngheredigion 21% - y cynnydd mwya' drwy Gymru.
Bellach mae dros 1,700 o ail gartrefi yn y sir.
"Mae hi bendant yn bryder fel i bob awdurdod gwledig arall o fewn Cymru," meddai'r Cynghorydd Davies.
"Ni yn mynd i edrych arno fe'n bendant. Mae 'na ganllawiau newydd wedi dod gan Lywodraeth Cymru.
"Y broblem sy' ganddon ni yng Ngheredigion yw bron a bod yn 18% o ail gartrefi gyda ni, felly'n mae rhaid i ni edrych ar y broblem er tegwch i'r bobl ifanc sydd gyda ni sy'n chwilio am dai."
Fe ofynnodd Newyddion S4C iddo a allai ail dai ychwanegol gael eu gwrthod, ac ateb yr arweinydd oedd: "Bydden i'n gobeithio y byddai'r rhyddid gyda ni i wneud hynny."
Mesurau 'llawdrwm'
Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y gallai cynghorau godi biliau treth cyngor hyd at 300% yn achos ail gartrefi a thai sy'n wag yn y tymor hir o Ebrill 2023 ymlaen.
Ond dydy Ysgrifennydd Cymru, Syr Robert Buckland, ddim o blaid hynny, na'r syniad o osod uchafswm ar faint o ail gartrefi y gellir eu caniatáu.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Syr Robert fod penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i roi'r hawl i awdurdodau lleol gynyddu premiymau treth cyngor hyd at 300% o'r gyfradd arferol fel "cynnydd niweidiol" sydd yn "llawdrwm" ac a allai ddifrodi'r economi.
"Rwy'n poeni am hynny. Dwi'n credu y gallai yrru nifer o bobl sydd wedi cadw cysylltiad â Chymru am resymau hanesyddol neu am eu bod yn adnabod y wlad oddi yma," meddai.
"Byddai unrhyw berson rhesymol yn cyfri'r rheiny'n bobl sydd yn caru'r wlad ac am fod yn rhan ohoni.
"Fy ngofid yw, gyda'r math yma o gynnydd niweidiol, ry'ch chi'n mynd i yrru pobl i ffwrdd, gorfodi gwerthiant eiddo, achosi cwymp mewn prisiau tai.
"Dwi ddim yn siŵr mai ymateb llawdrwm fel hyn yw'r ffordd iawn i ddelio a rhannau gwledig Cymru.
"Dwi'n credu ei fod e'n achosi problemau a phoen mewn llefydd fel Sir Benfro, lle mae twristiaeth yn rhan mor bwysig o'r economi.
"Dwi'n clywed y dadleuon, dwi'n eu parchu nhw, dwi'n deall y tensiynau, ond weithiau mae mesurau fel hyn yn gallu cael effaith wahanol i'r hyn oedd wedi ei fwriadu."
Nododd Syr Robert, a gafodd ei benodi i gabinet Boris Johnson fel Ysgrifennydd Cymru yn gynharach y mis hwn, ei fod hefyd yn pryderu am gapio niferoedd yr ail gartrefi yng Nghymru - rhan o gytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd.
"Dwi'n credu ei bod hi'n demtasiwn i mi ddweud y dylai 'na fod uchafswm.
"Dwi'n gwybod y bydd llawer o bobl leol yn teimlo bod pobl yn methu fforddio prynu tŷ yn eu cymdogaeth a bod cenedlaethau o bobl o'r un teulu yn methu byw drws nesaf i'w gilydd, ond dwi'n credu y gallai hynny greu niwed i'r economi leol.
"Mae twristiaeth yn rhan o wead gorllewin Cymru yn fy marn i. Mae'n rhaid i ni daro'r balans cywir.
"Mae gan bob un ohonom - p'run ai ydyn ni'n byw yma'n barhaol neu yn berchen ail gartref, gyfrifoldeb at yr economi a'r gymuned leol.
"Fe ddylen ni ymddiried yn synnwyr da pobl yn y ffordd maen nhw'n defnyddio'u cartrefi ac yn caniatau i'w cartrefi gael eu defnyddio gan eraill yn y gymuned leol - Airbnb neu beth bynnag arall allai hynny fod; mae pob math o ffyrdd y gall tai gael eu defnyddio yn hytrach na bod yn wag."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n credu bod gan bawb yr hawl i gartref fforddiadwy, addas i'w brynu neu ei rentu yn eu cymuned eu hunain, fel eu bod yn gallu byw a gweithio'n lleol.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd camau radical ar unwaith gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threth i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau yn y farchnad dai ar hyn o bryd, gan gynnwys yr effaith negyddol y gall ail gartrefi a thai anfforddiadwy ei chael.
"Mae'r cynnydd yn ôl disgresiwn i bremiymau treth gyngor yn rhan o becyn cydgysylltiedig o gynigion i fynd i'r afael â'r problemau hyn.
"Caiff awdurdodau lleol deilwra'r pwerau hyn i ystyried yr amgylchiadau yn eu gwahanol ardaloedd."
Fe ychwanegon nhw fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydden nhwythau'n rhoi'r hawl i gynghorau godi treth uwch ar ail gartrefi yn Lloegr ac yn cyflwyno'r newid hwnnw mewn mesur seneddol - gan efelychu'r pwerau sydd eisoes ar gael yng Nghymru ers Deddf Tai 2014.
Mae 'na wahaniaeth barn amlwg, ac fe all y dadleuon fod yn gymhleth.
Dywedodd Delyth Davies o Gaerdydd, sydd ag ail gartref yng Nghei-newydd: "Dwi'n cydnabod yn iawn fod o'n dod â phroblemau, ond fel perchnogion beth y'n ni'n trio 'neud yw cefnogi'r economi leol gymaint ag y gallwn ni.
"'Dan ni'n prynu'n cig ni'n lleol, 'dan ni'n mynd i'r archfarchnad leol, a ni'n hoffi bwyta mas yn lleol hefyd.
"Licien ni feddwl, er ein bod ni'n berchen ail dŷ yma, 'dan ni yn trio rhoi 'nôl gymaint ag y gallwn ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022