Porthmadog: Plismon yn gwadu ymosod dyn ar ôl ei arestio

  • Cyhoeddwyd
PC Richard Williams

Mae plismon sy'n wynebu dau gyhuddiad mewn cysylltiad ag arestio dyn ym Mhorthmadog ym mis Mai y llynedd wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau.

Fe ymddangosodd Richard Williams, 42, yn Llys Ynadon Llandudno fore Mawrth wedi'i gyhuddo o dagu Steven Clarke yn fwriadol ac o ymosod gan achosi niwed corfforol.

Mae Mr Williams yn gwadu pob cyhuddiad ac mae ei achos wedi'i drosglwyddo i Lys y Goron.

Bydd Richard Williams yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 12 Chwefror.

Yn y cyfamser mae wedi cael ei wahardd o'i waith.

Pynciau cysylltiedig