Gwarchod coeden hynafol ym 'mharc Llyfr Mawr y Plant'

  • Cyhoeddwyd
Y goeden a Llyfr Mawr y Plant

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu er mwyn achub coeden hynafol sydd â chysylltiadau â Llyfr Mawr y Plant.

Mae'r goeden dderwen hynafol wedi ei lleoli ym Mharc Meurig ym Methesda.

Mae'r goeden oddeutu 500 mlwydd oed ac mae swyddogion yn dweud ei bod mewn cyflwr gwael iawn ac y gallai achosi perygl i'r cyhoedd.

Mae'r penderfyniad i'w gwarchod yn rhan o brosiect ehangach i wella'r parc.

Un o brif atyniadau Parc Meurig ydy'r gwaith celf o amgylch y safle sy'n rhannu rhai o straeon poblogaidd Llyfr Mawr y Plant.

Cafodd llawer o'r gwaith celf ei greu gan ddisgyblion ysgolion yr ardal, ac maen nhw'n teimlo bod cysylltiad cryf rhwng y parc a'r llyfr. 

Dywedodd Elin, 9 oed, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanllechid ei bod yn "hoff iawn o'r parc, mae'n le gwych i gael hwyl ac i ddysgu am Lyfr Mawr y Plant".

Dywedodd: "Mae'r llyfr yn bwysig i'r ardal hon. Dwi wedi bod i'r parc gyda'r ysgol. Cawsom ni lawer o hwyl yno ac mae'n le grêt i ddysgu am Lyfr Mawr y Plant gan fod yna sawl darn o gelf yn dangos gwahanol rannau o'r llyfr yno.

"Dwi'n falch bod nhw'n mynd i edrych ar ôl y parc."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin bod y parc yn "le grêt i ddysgu am Lyfr Mawr y Plant"

Mae Leo, disgybl arall yn Ysgol Gynradd Llanllechid, yn dweud iddo "fwynhau darllen straeon Llyfr Mawr y Plant" wrth ddysgu Cymraeg.

Aeth ymlaen i ddweud mai ei hoff gymeriad yw "Wil Cwac Cwac ac mae'n cŵl bod modd gweld ei lun yn y parc a dysgu amdano. Dyma'i gartref o ac mae'n bwysig bod ni'n edrych ar ôl y parc a'r goeden".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leo o'r farn ei bod hi'n "bwysig bod ni'n edrych ar ôl y parc a'r goeden"

Cafodd copi cyntaf Llyfr Mawr y Plant ei gyhoeddi yn 1931, llyfr Cymraeg clasurol i blant, sy'n cael ei ystyried o arwyddocâd diwylliannol i Gymru.Cyflwynodd y llyfr gymeriadau poblogaidd fel Wil Cwac Cwac a Siôn Blewyn Coch i'r gynulleidfa Cymraeg am y tro cyntaf.Jennie Thomas o Fethesda oedd un o'r awduron gan greu'r cysylltiad cryf rhwng y dref a'r llyfr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mared yn dweud bod y goeden yn "bwysig" ac yn "rhan o'n hanes ni"

Awdur arall a fu'n sgwennu'r straeon oedd J O Williams - hen daid i Mared sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanllechid.

Dywedodd Mared: "Un peth gwnaeth ysbrydoli fy hen daid wrth ysgrifennu'r straeon oedd llwynog oedd yn dod i ymweld â'i ardd. Roedd y llwynog yn ffrind iddo, ond yn mynd i ardd y tŷ drws nesaf ac yn dwyn eu hieir nhw," meddai.  

"Mae'r parc a'r goeden yn bwysig i ni yma, mae'n rhan o'n hanes ni ac mae'n lle hwyl i fynd. Dwi'n falch iawn bod y cyngor yn ceisio'i warchod."

Er mwyn amddiffyn y goeden, a hefyd sicrhau iechyd a diogelwch pawb sy'n defnyddio'r ardal i ymlacio a chymdeithasu, bydd y Cyngor yn codi ffens o'i chwmpas a bydd rhan o'r canopi yn cael ei dorri yn ôl.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Amgylchedd: "Mae Parc Meurig yn adnodd cymunedol pwysig i Ddyffryn Ogwen.

"Mae gan yr ardal gysylltiadau â Llyfr Mawr y Plant - sydd wrth gwrs yn arwyddocaol iawn i ddiwylliant Cymru - ac mae'n siŵr fod cenedlaethau o blant wedi dychmygu Siôn Blewyn Coch a Siân Slei Bach yn byw yma dan ganghennau coed derw Parc Meurig."Ychwanegodd fod "archwiliadau ein swyddogion wedi datgelu cyflwr bregus y goeden. Nid ydym yn cymryd unrhyw benderfyniad yn ysgafn ac yn sicr ni fydd y goeden yn cael ei thorri i lawr."Bydd swyddogion bioamrywiaeth ar gael i siarad â'r cyhoedd yn ystod sesiwn anffurfiol ym Mharc Meurig ddydd Sadwrn, 20 Ionawr rhwng 11:00 a 13:00.

Pynciau cysylltiedig