Difrod i goed Cymru'n bygwth 'trychineb' i fyd natur
- Cyhoeddwyd
Mae coedlannau Cymru yn wynebu "canlyniadau arswydus" all achosi "trychineb" i blanhigion ac anifeiliaid, meddai cadwraethwyr.
Rhybuddiodd Coed Cadw fod diffyg brys i blannu a diogelu coed yn peryglu dyfodol llefydd gwyrdd.
Yn ôl y naturiaethwr a chyflwynydd Iolo Williams mae angen mwy o goed i osgoi "dinistriad bywyd gwyllt".
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn gallu darparu sylw oherwydd etholiadau'r Senedd.
Ond y flwyddyn ddiwethaf cyhoeddodd gynllun ar gyfer coedwig genedlaethol ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd Mark Drakeford y byddai'r cynllun - sy'n cynnwys £15m o grantiau ar gyfer creu coedwigoedd - yn helpu gwarchod natur ac yn hybu twristiaeth.
Yn ôl Coed Cadw, ond 2.5% o'r DU sydd bellach yn cynnwys coedlannau hynafol, gyda 4.5% yng Nghymru.
Mewn adroddiad mae'r elusen nawr yn rhybuddio bod newid hinsawdd, darniad coedlannau, plâu, heintiau a llygredd yn bygwth dyfodol lleoedd gwyrdd a bod angen "gweithredu ar frys".
Dywedodd yr ymddiriedolaeth tra bod gorchudd coed yn cynyddu, nid oedd y cynnydd "yn ddigon cyflym o bell ffordd" i atal y dirywiad, a bod nifer yr adar sy'n byw mewn coedlannau a phili-palod yn "dirywio'n gyflym".
Yn ôl Natalie Buttriss, cyfarwyddwr Coed Cadw, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn un "sobr" ac mae angen gweithredu ar frys i warchod llefydd gwyrdd.
"Mae plannu a gwarchod coedwigoedd a choed yma yng Nghymru yn hollbwysig," meddai.
Yn ôl yr elusen, mae mwy na 99% o goedlannau yng Nghymru nawr yn cynhyrchu lefelau llygredd nitrogen sydd tu hwnt i'r lefel derbyniol, yn difrodi bywyd gwyllt.
Yn ogystal dywed yr adroddiad bod dau draean o goedwigoedd sydd mewn Ardaloedd Arbennig Cadwraethol mewn "cyflwr anffafriol".
Dywedodd Ms Buttriss y gallai'r dirywiad gael ei wrthdroi, a byddai mwy o goedlannau'n dod â mwy o fuddion i natur, cymunedau a'r economi.
Ymestyn coedlannau'n 'hollbwysig'
Dywedodd Ceiniogi'r Coed, elusen sy'n bwriadu plannu miliwn o goed ym Mannau Brycheiniog, bod yr adroddiad yn "dorcalonnus".
Mae'r elusen newydd gwblhau cynllun i glirio rhedyn a phlannu 120,000 o goed ar Y Mynydd Du.
Yn ôl Robert Penn, rheolwr y prosiect, mae coedlannau'n "hollbwysig" ac mae angen gweld newid i gael gwared â'r prosesau cymhleth sy'n atal coedlannau newydd rhag cael eu creu.
"Mae diogelu, gwella ac ymestyn ein hasedau coedlannau yn hollbwysig am nifer o resymau: gwella bioamrywiaeth, adeiladu economïau gwydn gwledig a darparu'r llefydd rydyn ni angen i ymlacio".
Dywedodd y naturiaethwr a chyflwynydd teledu Iolo Williams bod angen gweithredu i helpu atal dirywiad bywyd gwyllt, gan feio "cannoedd o flynyddoedd o ddatblygiad" am ddirywiad coedlannau a llefydd gwyrdd.
"Mae angen mwy o goed, nid ond i fynd i'r afael â phethau fel newid hinsawdd, twymo byd eang a llifogydd, ond hefyd i atal y dirywiad mewn bywyd gwyllt rydyn ni'n gweld," meddai.
"Rydw i allan yn cerdded nawr, ac rydw i'n gweld ychydig iawn o bryfed."
Dywedodd Mr Williams bod angen mwy o goed, ond rhybuddiodd fod angen iddyn nhw fod "y coed cywir yn yr ardal gywir".
Beth mae'r pleidiau wedi dweud?
Dywedodd llefarydd amgylchedd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders, y byddai ei phlaid yn "gweithredu ar frys i adeiladu Cymru well a mwy cynaliadwy".
Byddai'n gwneud hynny, dywedodd, trwy blannu "o leiaf wyth miliwn o goed y flwyddyn er mwyn amsugno o gwmpas hanner miliwn tunnell o C02, a gwrthdroi beth rydyn ni'n anffodus wedi gweld yn digwydd".
Dywedodd llefarydd amgylchedd y Democratiaid Rhyddfrydol, Rodney Berman, bod ei blaid yn cefnogi cynlluniau ar gyfer coedwig genedlaethol a byddai'n "diweddaru a gwella" deddfwriaeth diogelu coed.
Dywedodd y byddai'r blaid yn gwneud pob tref yng Nghymru yn "drefi coed", gyda lleiafswm o 20% o orchudd coed mewn ardaloedd dinesig a 30% o orchudd coed yn ofynnol am bob datblygiad newydd.
Dywedodd Plaid Cymru y byddai ail-goedwigo Cymru yn fwriad cenedlaethol os ydyn nhw mewn grym, gyda chynllun gweithredu i sicrhau 20% o orchudd coed mewn ardaloedd dinesig.
Dywedodd llefarydd y byddai'n cynnwys plannu 100,000 hectar o goedlannau cymysg pob degawd yng Nghymru, a byddan nhw'n dilyn cynllun o "goeden gywir yn y lle cywir" wrth feddwl am adferiad coedwigoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2021