Rhegfeydd yn 'fwy derbyniol' a mwy wedi'u cyhoeddi

  • Cyhoeddwyd
Geiriadur Prifysgol CymruFfynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o regfeydd bellach yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru wrth iddyn nhw ddod yn "fwy derbyniol"

Am flynyddoedd, peth prin oedd gweld rheg wedi'i chyhoeddi ond bellach mae nifer o regfeydd wedi cyrraedd Geiriadur Prifysgol Cymru - yn rhannol am eu bod bellach yn ebychiadau y byddai pobl yn eu defnyddio heb feddwl, medd y golygydd Andrew Hawke.

Daw ei sylwadau wedi i ymchwil gan iethegwyr eraill ddangos bod rhegi wedi dod yn llawer mwy derbyniol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae pobl, meddir, yn defnyddio rheg i fynegi syndod a chreu hiwmor yn hytrach nag i sarhau hwn ac arall. Nodir hefyd bod rhegi yn gallu creu undod a'i fod yn ffordd o ddioddef poen yn haws.

Y gair "ff" a "sh*t", medd ieithegwyr, yw'r rhegfeydd mwyaf cyffredin yn Saesneg ac maen nhw'n cael eu defnyddio gan amlaf fel ebychiad.

Yn ddiweddar mae'r gair 'ff', a nifer o ymadroddion sy'n cynnwys y gair, i'w gweld yng Ngheiriadur Prifysgol Cymru.

Dyw staff y Geiriadur ddim yn ystyried cynnwys gair oni bai bod enghreifftiau niferus o'r gair mewn print neu ar y we.

'Duwcs, godrapia, brensiach'

Yn y blynyddoedd diwethaf mae mwy o enghreifftiau o regfeydd wedi'u cyhoeddi ac felly mae gennym ddigon o dystiolaeth i'w cynnwys yn y Geiriadur, medd Andrew Hawke.

"Roedd rhai geiriau wedi cael eu heithrio o'r Geiriadur yn y gorffennol oherwydd sensitifrwydd y cyfnod.

"Roedd yr un peth yn wir am yr Oxford English Dictionary hefyd a gallai'r wasg fod wedi cael ei chosbi'n gyfreithiol o dan yr Obscene Publications Act petaen nhw'n cyhoeddi rhai geiriau - roedd cyhoeddwyr yn gorfod bod yn ofalus iawn."

Ychwanega Mr Hawke bod y cyd-destun y mae rheg yn cael ei ddefnyddio wedi newid llawer ar hyd y blynyddoedd.

"Roedd nifer o'r ebychiadau sy'n cael eu defnyddio heddiw yn cael eu hystyried yn gableddus ers talwm - pethau fel 'Duwcs' sy'n dod o Duw, godrapia sy'n fenthyciad o 'God rot ye'. Mae'r rhain wedi colli grym dros amser a phawb wedi anghofio beth oedd yr ergyd wreiddiol.

"Yn ieithyddol yr hyn sy'n ddifyr yw mwytheiriau (euphemisms) - lle mae pethau fel y Brenin Mawr yn cael ei droi'n 'brensiach' a defnyddir 'esgyrn Dafydd' yn lle 'esgyrn Iesu Grist'."

'Cadw dy blydi chips'

Mae'n debyg mai'r rheg mwyaf adnabyddus yn llenyddiaeth Gymraeg yw 'blydi' wrth i 'Cadw dy blydi chips' ymddangos yn y nofel William Jones gan T Rowland Hughes yn 1944 ond yn 2012 yr ymddangosodd y gair yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru

Mae'r enghraifft gynharaf o'r ansoddair 'blydi' i'w weld yn Plasau'r Brenin, Gwenallt yn 1934 ond yn ddiweddar mae'r gair wedi ei gofnodi sawl gwaith, medd Mr Hawke.

"Yn wreiddiol roedd 'blydi' yn cyfeirio at waed Crist a dyna pam roedd e'n cael ei ystyried yn gableddus, ac felly yn annerbyniol gan rai - ond fel mae amser wedi newid a chrefydd yn llai pwysig i bobl mae'n fwy derbyniol.

"Mae wedi bod yn gwestiwn anodd i ni ar hyd y blynyddoedd ond erbyn hyn 'dan ni'n tueddu i gynnwys popeth ni'n dod ar ei draws os oes yna ddigon o dystiolaeth - ond 'dan ni'n tueddu i aros nes bod geiriau wedi ennill eu plwy' cyn eu cynnwys nhw yn y Geiriadur.

"Wrth gwrs mae'r rhan fwyaf yn dod o'r Saesneg - mae hynna yn wir am regfeydd ar hyd y blynyddoedd.

"Rydyn ni newydd gyhoeddi rhai geiriau yn dechrau ag 'ff' oedd wedi cael eu hepgor o'r Geiriadur... mae enghreifftiau ohono ymhobman erbyn hyn mewn print yn Gymraeg.

"Mae'n debyg ei fod wedi dod yn fwy cyffredin yn y 1970au - felly mae'n dangos sut mae pethe wedi newid a bod geiriau a oedd yn rhegfeydd ofnadwy ac yn eiriau tabŵ yn dderbyniol erbyn hyn."

Mae'r Prifardd Ifor ap Glyn wedi cyflwyno nifer o raglenni ar eiriau a thafodiaith ac mae e'n cytuno bod rhegfeydd yn llawer iawn mwy derbyniol.

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mam yn dweud o hyd yr 'uwd annwyl' gan droi Duw ar ei ben i wneud rhywbeth fwy derbyniol medd y Prifardd Ifor ap Glyn

"Be sy'n rhyfeddol," meddai, "yw ein bod yn dod o sefyllfa lle'r oedd cablu yn gallu cyfiawnhau y gosb eithaf.

"Yn 1696 fe gafodd dyn yng Nghaeredin ei grogi am gablu a dim ond yn lled ddiweddar mae'r gyfraith ynglŷn â chablu wedi cael ei diddymu - 2008 yma yng Nghymru, yn fwy diweddar yn Yr Alban ac mae dal yn drosedd yng Ngogledd Iwerddon.

"Mae'n ddifyr yn tydi fel 'dan ni wedi bod yn gwyro pethau. Ma' 'Jiw Jiw' yn fwy derbyniol na 'Duw Duw' ac mae Mam yn dweud o hyd yr 'uwd annwyl' gan droi Duw ar ei ben i wneud rhywbeth fwy derbyniol."

Yn ôl yr Athro Yehuda Baruch o Brifysgol Southampton mae ei ymchwil ar regi ymhith pobl broffesiynol fel cyfreithwyr a meddygon yn dangos bod rhegi yn rhyddhau tensiwn ac yn pwysleisio pwynt.

"Mae rhegi yn anffodus yn gallu bod yn effeithiol. Dyma'r iaith newydd ac mae'n rhaid i ni fyw gyda hi," meddai.

Mae trafodaeth bellach ar y pwnc yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 1230 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds