Traciau ar-lein i helpu cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Traciau ar-lein i helpu cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd

Mae'r Urdd wedi lansio adnodd newydd i helpu ysgolion hyfforddi plant i gymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru yn gosod traciau ymarfer ar-lein ar gyfer rhai o'r darnau gosod yn y cystadlaethau canu i ddisgyblion Blwyddyn 6 ac iau.

Mae 10 o ddarnau gosod ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Drefaldwyn eleni yn cael eu gosod ar blatfform ar-lein Charanga Cymru, sydd ar gael i ysgolion.

Y nod, yn ôl yr Urdd, yw sicrhau fod pob plentyn yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr Eisteddfod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cydlynydd y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, Mari Pritchard, bod y traciau yn cynnig cymorth ar sawl lefel

Dywedodd Mari Lloyd Pritchard, Cydlynydd Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru: "Mae'r Urdd yn cyfrannu gymaint at addysg gerdd yng Nghymru ac yn cynnig platfform gwerthfawr i gymaint o'n cerddorion ifanc.  

"Dwi'n hynod o falch felly fod y bartneriaeth yma yn ein galluogi ni i leihau unrhyw rwystr i blentyn, athro neu ysgol i ddysgu caneuon, cynyddu deallusrwydd o ofynion cerddorol copïau a hefyd agor y drws i hwyluso'r cyfle i gyfansoddi."Mae'n cynnig cefnogaeth ar sawl lefel, boed eich bod chi'n gerddor profiadol neu yn rhywun sydd eisiau mwynhau canu neu ymarfer heb fod yna gyfeilydd ar gael bob dydd," ychwanegodd.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio bydd y cynllun yn gymorth yn enwedig i ysgolion sydd heb athrawon sydd ag arbenigedd cerddorol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd, yn gobeithio y bydd yr adnoddau yn lleihau pwysau

"Dan ni'n cael adborth bob blwyddyn bod 'na lai o athrawon yn gallu cyfeilio," meddai Llio Elain Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau gyda'r Urdd.

"Mae ganddo ni wirfoddolwyr gwych, hyfforddwyr gwych, ond mae pawb o dan bwysau erbyn hyn, a be 'dan ni'n gallu gwneud rŵan ydy lleihau ychydig ar y baich yna.

"'Dan ni'n gallu cynnig cefnogaeth ychwanegol i hyfforddwyr, athrawon a rhieni hefyd ella sydd ddim efo'r sgiliau cerddorol i gefnogi ymarfer yn y cartre', ond efo cyfeiliant a thraciau ar gael am ddim, maen nhw'n gallu ymarfer efo'u plant a gwneud yn siŵr bod nhw hefyd yn rhan o'r profiad celfyddydol 'ma."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion ysgol cyfrwng Saesneg Cefn Fforest, Sir Caerffili yw'r rhai cyntaf i ddefnyddio'r adnodd digidol

Yr ysgol gyntaf i ddefnyddio'r adnodd newydd yw Ysgol Gynradd Cefn Fforest yn Sir Caerffili.

Mae'r ysgol cyfrwng Saesneg wedi penderfynu cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf ers blynyddoedd, gan ddefnyddio'r traciau ymarfer.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Mantle o Wasanaeth Cerdd Ysgolion Caerffili gyda disgyblion Ysgol Cefn Fforest

"I ysgolion sydd ddim yn rhai cyfrwng Cymraeg, yr her wastad yw rhoi'r hyder i staff i ddysgu canu trwy gyfrwng yr iaith," meddai'r pennaeth Julie Farmer.

"Mae hwn yn galluogi staff i gael mynediad i'r traciau ym mhob dosbarth, ac mae modd iddyn nhw ymarfer gyda'r plant bob dydd.

"Mae e wedi bod o fudd mawr i ni."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gynradd Cefn Fforest yn cystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd wrthi iddyn nhw fanteisio ar yr adnoddau ar-lein

Mae modd defnyddio'r platfformau digidol i gystadlu yn y cystadlaethau cyfansoddi cerddoriaeth hefyd.

Bwriad Eisteddfod yr Urdd a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru yw ehangu'r ddarpariaeth ar-lein i gynnwys traciau ymarfer ar gyfer pob un o gystadlaethau cerddoriaeth yr ŵyl yn y pendraw.

Pynciau cysylltiedig