Cwpan y Pencampwyr: Caerdydd 15-54 Harlequins

  • Cyhoeddwyd
Marcus SmithFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Marcus Smith yn disgleirio i'r Harlequins nos Sadwrn

Roedd yna fuddugoliaeth gyfforddus i'r Harlequins nos Sadwrn yng Nghwpan y Pencampwyr wedi iddyn nhw drechu Caerdydd o 54-15 ar Barc yr Arfau.

Fe sicrhaodd yr ymwelwyr wyth cais i gyd - pedwar yn yr hanner cyntaf a phedwar yn yr ail.

Thomas Young oedd seren Caerdydd wedi iddo sgorio dau gais.

Sgoriwyd y gweddill o bwyntiau Caerdydd gan Tinus de Beer wedi trosiad a chic gosb lwyddiannus.

15-28 oedd y sgôr ar hanner amser wedi i Gaerdydd gael dechrau addawol ond doedd 'na ddim mwy o bwyntiau i'r tîm cartref ac fe aeth yr ymwelwyr o nerth i nerth.

Roedd 12,000 yn gwylio'r gêm gyda phob tocyn wedi'i werthu - ond siom i gefnogwyr Caerdydd wedi nifer o gamgymeriadau.

Pynciau cysylltiedig