Lluniau: Mwy o eira'n disgyn dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae eira cynta'r flwyddyn wedi disgyn mewn ambell i ardal yng Nghymru, gan achosi trafferthion ar y ffyrdd a chau rhai ysgolion.
Dyma rai o'r golygfeydd gaeafol dros y dyddiau diwethaf.

Castell Caenarfon yn heulwen braf fis Ionawr

Mynyddoedd yr Eifl dan gwmwl oer

Yr olygfa o Gaernarfon tuag at fynyddoedd Eryri oedd o dan flanced wen

Roedd y ffordd yn llithrig iawn ym Mridell, Sir Benfro

Dyma'r olygfa allan o un o ffenestri Prifysgol Bangor

Awyr las a chaeau gwyn yn Nantglyn, sir Ddinbych

Yr olygfa ym mhentref Nantglyn, sir Ddinbych

Sgwn i sawl gwaith dros y canrifoedd mae eira wedi bod yn orchudd ar Castell Dinas Brân, Llangollen?

Dinas dan eira, Llanelwy

Pen yr Ole Wen o lannau llyn Idwal

Cae dan flanced gwyn yn Nhreffynnon, sir Fflint

Yr olygfa ger Llyn y Dywarchen, Rhyd-Ddu

Mynyddoedd Eryri o Aberporth, Ceredigion

Y machlud yn Llandegla, sir Ddinbych

Deffro i ardd o eira ym Meddgelert

O'r diwedd, nid glaw ond eira ym Mlaenau Ffestiniog

Diwrnod braf ar fferm yn Nhreffynnon, sir Fflint
Hefyd o ddiddordeb: