Gwynedd Shipping: 'Mwyafrif' y 142 o weithwyr wedi eu diswyddo

  • Cyhoeddwyd
GSLFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r "mwyafrif" o weithwyr Gwynedd Shipping wedi colli eu swyddi, wrth i weinyddwyr gael eu galw i'r cwmni yn dilyn trafferthion ariannol.

Daeth cadarnhad fore Mercher fod cwmni Kroll wedi ei benodi i edrych ar ôl asedau Gwynedd Shipping a Gwynedd Transport - oedd yn cyflogi 142 o bobl.

Daeth i'r amlwg bod pencadlys y cwmni yng Nghaergybi wedi cau ddydd Llun, gydag arweinydd Cyngor Môn yn dweud ei fod yn "newyddion argyfyngus".

Arbenigaeth Gwynedd Shipping ydy trafnidiaeth a chludo nwyddau dros y môr ar gyfer y diwydiannau adeiladu a dur.

'Wynebu heriau ariannol'

Dywedodd y gweinyddwyr fod y cwmni wedi wynebu "heriau ariannol o fewn sector drafnidiaeth a dosbarthu" ac nad oedd modd "sicrhau dyfodol" i'r busnes.

Fe ddywedodd y gweinyddwyr fod "mwyafrif o'r gweithwyr wedi cael eu diswyddo ar unwaith".

Fe ychwanegon nhw: "Ar 15 Ionawr 2024 cafodd James Saunders a Michael Lennon eu penodi fel cyd-weinyddwyr i Gwynedd Shipping a Gwynedd Transport sy'n cyflogi 142 o bobl."

Mae gan y cwmni hefyd safleoedd eraill ger Casnewydd, ar Lannau Dyfrdwy ac yn Nulyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi ei bod yn gobeithio y byddai cwmni arall yn cymryd safle Gwynedd Shipping

Wrth ymateb nos Fawrth, dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, fod y newyddion yn "argyfyngus".

"Mae'n safle adnabyddus iawn i'r dref... beth sy'n bwysig ydi y bydd y safle yn bodoli a gobeithio y bydd yna ddiddordeb yn y safle ac efallai y gweithwyr hefyd.

"'Dan ni wedi cael ein hadnabod fel cyngor sydd efo arfer dda o gefnogi gweithwyr sy'n colli gwaith, ond yn anffodus y rheswm mae yna arfer dda ydi achos bod o'n rhywbeth 'dan ni'n gorfod ymateb iddo yn fwy rheolaidd," dywedodd.

Aeth ymlaen i ddweud ei bod eisiau "sicrhau bod y teuluoedd yma yn cael y gefnogaeth yna, ac unrhyw sicrwydd o waith".