Cwmni Gwynedd Shipping 'yn nwylo'r gweinyddwyr'

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau Gwynedd Shipping
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw y gallai rhwng 50 a 60 o bobl golli eu gwaith

Mae'n ymddangos bod y cwmni cludo Gwynedd Shipping wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, yn ôl Cyngor Môn.

Mae adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod gyrwyr ac aelodau eraill o staff wedi cael eu diswyddo, gyda rhai yn dweud eu bod yn chwilio am waith.

Mae'r cwmni, sydd â'i bencadlys yng Nghaergybi, yn arbenigo mewn trafnidiaeth a chludo nwyddau dros y môr ar gyfer y diwydiannau adeiladu a dur.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn eu bod yn ceisio cysylltu â'r cwmni.

"Rydym yn ymwybodol ei bod yn ymddangos bod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr," meddai llefarydd.

"Rydym ar hyn o bryd yn ceisio ymgysylltu â'r cwmni i sefydlu'r sefyllfa bresennol.

"Bydd y cyngor sir yn darparu'r hynny o gefnogaeth a allwn ni i'r rhai sydd wedi'u heffeithio, gan weithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, bod y cyngor a Llywodraeth Cymru yn ceisio cael cadarnhad gan y cwmni beth yw'r sefyllfa

"Mae'n newyddion argyfyngus," dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi. "Beth ydyn ni eisiau rŵan ydi cadarnhad gan y cwmni beth mae'n ei olygu i weithwyr yma ar yr ynys.

"Mae'n safle adnabyddus iawn i'r dref... beth sy'n bwysig ydi y bydd y safle yn bodoli a gobeithio y bydd yna ddiddordeb yn y safle ac efallai y gweithwyr hefyd."

Mae'r cyngor, medd Ms Medi, yn cydweithio gydag Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU i roi cefnogaeth i'r gweithlu.

"'Dan ni wedi cael ein hadnabod fel cyngor sydd efo arfer dda o gefnogi gweithwyr sy'n colli gwaith, ond yn anffodus y rheswm mae yna arfer dda ydi achos bod o'n rhywbeth 'dan ni'n gorfod ymateb iddo yn fwy rheolaidd," dywedodd.

"Beth ydyn ni eisiau rŵan ydi sicrhau bod y teuluoedd yma yn cael y gefnogaeth yna, ac unrhyw sicrwydd o waith.

"Mae yna ddiffyg cynllunio strategol i'r economi yn y wlad yma, mae yna ddiffyg cefnogaeth i economi ac mi ydan ni'n gweld cwmnïau fel hyn yn methu... dwi ddim yn gwybod os mai dyma ydi'r rheswm yn yr achos yma, ond mae costau ynni a thanwydd yn codi."

Y gred yw y gallai rhwng 50 a 60 o bobl golli eu gwaith.

Sefyllfa 'drist iawn'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones, sy'n cynrychioli ardal Caergybi ar Gyngor Môn, ei fod yn sefyllfa "drist iawn".

"Ma' cymaint o bethau yn cau yn y sir - oeddan ni'n edrych 'mlaen i gael ryw newyddion da ond mae hwn wedi digwydd," meddai.

Aeth ymlaen i ddweud bod y cwmni wedi bod yn "rhan o bictiwr Caergybi ers blynyddoedd, ac i golli hwn mae'n blow eto".

"Mis Ionawr mae pob peth yn dywyll a hwn yn dod ar ben popeth, mae'n drist a dweud y gwir, ond 'da ni wedi gweld lot o bethau yn digwydd ar yr ynys dros y blynyddoedd... wedi gweld pethau yn mynd a dŵad."

Ychwanegodd fod y newyddion yn "sioc". "Fel pobl leol, 'da ni'n gweld y loris yn mynd a dŵad pob diwrnod," meddai.

Er nad yw'r cyngor wedi clywed rhagor o fanylion, dywedodd: "'Da ni'n gobeithio bydd o ddim rhy ddrwg a bydd gwaith i'r dynion."

'Ansicrwydd'

Dywedodd Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth nos Lun fod y sefyllfa yn "aneglur iawn".

"Rydyn ni'n clywed adroddiadau o gwmni mewn trafferthion, sy'n achosi pryder mawr wrth gwrs, ond hyd yn hyn nid wyf wedi gallu cael gafael ar unrhyw wybodaeth bellach.

"Rwy'n gwneud ymholiadau ac yn aros i glywed yn ôl er mwyn i ni allu deall maint llawn yr hyn sy'n digwydd, ac fel y gallwn weld pa gymorth all fod ei angen.

"Mae fy meddyliau ar hyn o bryd gyda'r gweithwyr sy'n wynebu ansicrwydd heno, ac rwy'n eu hannog i gysylltu â mi os oes angen unrhyw gymorth arnynt."

Mae gan Gwynedd Shipping swyddfeydd hefyd yng Nglannau Dyfrdwy, Casnewydd a Dulyn.