Tata i gau ffwrneisi Port Talbot gan golli hyd at 3,000 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, Ben Birchall

Bydd cwmni dur Tata yn bwrw ymlaen gyda chynllun i gau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, allai arwain at golli hyd at 3,000 o swyddi, mae'r BBC yn deall.

Daw'r penderfyniad yn dilyn cyfarfod rhwng Tata ac undebau Community, GMB ac Unite ddydd Iau.

Mae disgwyl i Tata wneud cyhoeddiad swyddogol ddydd Gwener.

Yn lle'r ffwrneisi chwyth presennol - sy'n creu dur newydd o fwyn haearn - bwriad Tata yw gosod ffwrnais drydan fodern.

Mae'r ffwrneisi modern yn creu dur o fetel sgrap, ac yn creu llai o lygredd, ond fe fydd yn golygu bod angen llai o weithlu ym Mhort Talbot.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud fod cronfa gwerth £100m ar gael i gefnogi'r gymuned a'r gweithwyr fydd yn colli eu swyddi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tata wedi dweud y bydd yn cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot

Llynedd dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n rhoi £500m o arian cyhoeddus i gefnogi'r cynllun, sydd werth £1.25bn.

Roedd cynllun amgen gan undebau wedi dadlau dros gadw un o'r ffwrneisi chwyth ar agor am gyfnod pontio gyda'r ffwrnais newydd.

Byddai hynny wedi amddiffyn rhai swyddi, ond dydy Tata ddim wedi bod yn gefnogol o'r syniad oherwydd costau gweithredu'r hen ffwrneisi.

Dywedodd y cwmni ei fod yn colli £1m y dydd drwy ei waith dros Brydain ar hyn o bryd.

Mae'n ddiwrnod braf ym Mhort Talbot, ond yn ddiwrnod tywyll iawn i'r dref ar yr un pryd.

Mae'r newyddion sy'n dod o'r cyfarfod yn Llundain wedi synnu pobl. Roedd rhai wedi bod yn holi'r newyddiadurwyr y tu allan i'r gwaith dur am y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae gwrthod cynllun yr undebau, a'r penderfyniad i fwrw ymlaen gyda chau'r ffwrneisi chwyth yn sydyn, yn cynrychioli'r sefyllfa waethaf posib i'r gweithlu, a'r gymuned, sy'n dibynnu ar waith dur Tata.

Pa mor gyflym all y cynllun gael ei weithredu? Faint o gefnogaeth gaiff y gweithlu? Dyna rai o'r cwestiynau mae'r bobl yma eisiau atebion ar eu cyfer.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod "yn benderfynol o sicrhau dyfodol cynaliadwy a chystadleuol i ddiwydiant dur y DU", a'u bod wedi rhoi £500m i'r safle er mwyn "amddiffyn miloedd o swyddi".

"Mae ymgysylltu ag undebau llafur yn broses sy'n cael ei harwain gan y cwmni, sy'n gwbl briodol," meddai.

"Mae ystod eang o gymorth ar gael i staff sy'n cael eu heffeithio, gan gynnwys bwrdd bontio pwrpasol a gefnogir gan £80m gan Lywodraeth y DU ac £20m gan Tata Steel.

"Wedi'i gadeirio gan Ysgrifennydd Cymru gyda chynrychiolaeth weinidogol o Lywodraeth Cymru, bydd y bwrdd yn cefnogi gweithwyr sy'n cael eu heffeithio a'r economi leol."

Cau ffwrneisi'n 'anochel'

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething, fod Llywodraeth Cymru "mewn trafodaethau gyda Tata Steel a'r undebau llafur", a'u bod wedi ceisio cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU am "ddyfodol gwaith y cwmni yng Nghymru".

"Nid mater i Gymru yn unig yw hyn - mae dur yn ased sofran ac fe ddylai gael ei drin felly gan Lywodraeth y DU," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David TC Davies fod cronfa gwerth £100m mewn lle i gefnogi'r gymuned a'r gweithwyr fydd yn colli eu swyddi

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ei fod yn "drist iawn i glywed y newyddion".

"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithio gyda Tata i sicrhau ni'n gallu achub swyddi," meddai.

"Ni ddim yn gallu stopio Tata rhag cau y ffwrnesi blast - roedden nhw'n colli mwy na £1m bob dydd, ac felly oedd e'n anochel efallai bo' nhw'n mynd i gau'r ffwrnesi.

"Ond ni'n gallu gweithio gyda nhw i sicrhau bo' nhw'n gwneud arc furnace yn eu lle.

"Bydd hynny'n achub 5,000 o swyddi, ac ar ben hynny, mae gyda ni nawr fund o £100m i gefnogi a helpu'r rhai sy'n colli eu swyddi - ond dwi'n deall bod y newyddion yn drist iawn i bawb yn y gymuned.

"Dyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn mynd i droi ein cefn ar y rhai sy'n colli eu swyddi - ni isie helpu'r gymuned, helpu'r rhai sy'n colli eu swyddi, a dyna bwynt yr arian.

"Mae'n rhaid i ni ail-hyfforddi a chefnogi pobl drwy'r amser anodd hwn."

'Hynod bryderus'

Yn siarad gyda'r BBC yn Davos, Swistir, dywedodd llefarydd y blaid Lafur ar fusnes, Jonathan Reynolds ei fod yn "anhapus iawn".

"Dwi eisiau dur gwyrdd. Nid y fargen hon sydd wedi'i chyflwyno yw'r fargen iawn i mi, ond rwy'n credu nad yw hanner biliwn o bunnoedd o arian cyhoeddus ar gyfer colli 3,000 o swyddi yn fargen dda.

"Rwy'n beio'r llywodraeth am hynny. Rwy'n meddwl y gallai gwell cyd-drafod a chynnig gwell gan y llywodraeth fod wedi sicrhau canlyniad llawer gwell.

"Rwy'n hynod bryderus. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r undebau a'r gweithlu, a'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru - sydd, yn fy marn i, â llawer gwell gafael ar y materion hyn nag sydd gan Lywodraeth Geidwadol y DU."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd o weithwyr Tata wedi mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ym Mhort Talbot i drafod dyfodol y swyddi yno

Mae dau o ASau Llafur yn ne Cymru wedi codi pryderon am ddibyniaeth y DU ar fewnforio dur yn sgil y cyhoeddiad.

Dywedodd Nia Griffith bod y cynllun yn "ddistrywiol i'r diwydiant dur ym Mhrydain", ac yn "gadael y DU fel yr unig un o brif economïau'r byd sydd heb y gallu i wneud eu dur trwm ei hun".

Cododd bryderon hefyd am oblygiadau ar safle Trostre yn ei hetholaeth yn Llanelli, fydd "un ai yn gorfod dod yn ddibynnol ar fewnforio dur i oroesi, neu hyd yn oed ail-gynllunio eu cynnyrch yn llwyr", gan greu "ansicrwydd mawr".

Dywedodd Stephen Kinnock bod cynllun Tata yn "fodel cul" fyddai'n cael effaith ar filoedd o weithwyr sydd wedi "rhoi eu bywydau" i'r diwydiant yn Aberafan.

Galwodd ar y cwmni a Llywodraeth y DU i "ddod o hyd i ddyfodol cyffrous a llewyrchus i wneud dur ym Mhrydain trwy fabwysiadu'r cynllun aml-undeb".

'Chwarae gemau gyda bywoliaeth pobl'

Daw'r penderfyniad yn dilyn cyfarfod rhwng Tata ac undebau Community, y GMB ac Unite yn Llundain ddydd Iau.

Yn ôl Charlotte Brumpton-Childs o undeb y GMB, roedd yn "gyfarfod anodd".

"Byddai colli swyddi ar raddfa fawr fel hyn yn ergyd drom i Bort Talbot a diwydiant gweithgynhyrchu'r DU yn gyffredinol," meddai.

"Nid oes rhaid iddo fod fel hyn - mae'r undebau wedi cynnig dewis arall realistig, wedi'i gostio, a fyddai'n diystyru pob diswyddiad gorfodol.

"Mae'n ymddangos bod y cynllun hwn wedi'i anwybyddu, a nawr bydd gweithwyr dur a'u teuluoedd yn dioddef."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC ar ddeall y bydd hyd at 3,000 o weithwyr yn colli eu swyddi dan gynlluniau Tata

Ychwanegodd Sharon Graham o undeb Unite fod "Tata yn dal i chwarae gemau gyda bywoliaeth pobl".

"Mae angen i'r llywodraeth nawr gamu i mewn a chamu i'r adwy," meddai.

"Dyma'r amser i amddiffyn gweithwyr a chymunedau Prydain, yn ogystal â'n sylfaen ddiwydiannol a'n diogelwch cenedlaethol.

"Bydd dirywiad pellach ar y diwydiant ond yn helpu cystadleuwyr y DU - cynhyrchwyr dur mewn gwledydd eraill.

"Mae angen i wleidyddion wneud y dewisiadau cywir nawr, neu ni fyddant yn cael eu maddau yn hawdd."

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tata eisiau symud i ffwrdd o ddefnyddio ffwrneisi chwyth ar gyfer cynhyrchu dur

Tu allan i'r safle ym Mhort Talbot, dywedodd Alan Coombs o undeb Community wrth y BBC fod yna gryn ddicter o fewn y gweithlu.

"Er ein bod ni'n dal i aros am gyhoeddiad swyddogol, mae'r newyddion fel rydyn ni'n deall yn drychinebus os yw hynny'n wir," meddai.

"Mae angen i ni feddwl am y gweithlu a sut mae'n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, oherwydd mae pawb yn amlwg yn poeni.

"Y cyfan rydyn ni'n ei glywed yw sïon ar hyn o bryd, a sïon cyson drwy'r amser, ac mae pawb yn poeni.

"Mae'n sefyllfa anodd. Mae'r pryder yn troi at ddicter. Mae yna lawer o ddicter."

'Effaith andwyol'

Bydd rhedeg ffwrnais drydan yn achosi llai o lygredd na'r ffwrneisi chwyth, ond mae ASau Plaid Cymru wedi dweud na ddylai "dadgarboneiddio ddod ar draul gweithwyr".

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweld gweithwyr medrus, ddylai fod yn chwarae rhan yn y trawsnewidiad, yn cael eu taflu ymaith", meddai Luke Fletcher a Sioned Williams.

"Yn hytrach na thorri swyddi, dylai Tata ganolbwyntio ar ailhyfforddi, fel y gall gweithwyr droi at wneud dur carbon niwtral.

"Mae angen i lywodraethau'r DU a Chymru gamu mewn er mwyn sicrhau bod y rheiny sy'n wynebu colli eu swyddi yn cael cefnogaeth ar frys.

"Bydd hyn yn cael effaith andwyol nid yn unig ar bobl Port Talbot a'r cymunedau oddi amgylch, ond ar yr economi leol a chenedlaethol."

Pynciau cysylltiedig