Cwest: Dyn a dorrodd ei organau cenhedlu 'wedi lladd ei hun'
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid.
Mae crwner wedi dod i'r casgliad bod dyn a gafwyd yn euog o ymddygiad anweddus, a gafodd ei ganfod gyda'i organau cenhedlu wedi'u torri i ffwrdd, wedi lladd ei hun.
Cafodd Reginald Alan Roach, 63, ei ddarganfod ar Stad Ddiwydiannol Bryn Cegin ym Mangor ddydd Sul, 6 Tachwedd, 2022 - pum diwrnod ar ôl cael ei ryddhau o Garchar Berwyn yn Wrecsam.
Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty ar ôl dioddef trawiad ar y galon, ond bu farw'n ddiweddarach.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod Roach wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol, a'i fod wedi bod yn derbyn cymorth gyda chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
Mewn datganiad gan y Swyddog Prawf Michael Murphy, a gafodd ei ddarllen i'r llys, roedd Roach wedi cyfaddef arddangos ei hun yn anweddus, a dywedodd ei fod yn bedoffeil.
Yn dilyn archwiliad gan Dr Brian Rodgers, patholegydd y Swyddfa Gartref, roedd profion am alcohol a chyffuriau ar adeg ei farwolaeth yn negyddol, a doedd dim olion ar ei gorff yn dangos fod rhywun wedi ymosod arno.
Daeth i'r casgliad nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â'i farwolaeth.
Roedd ei organau cenhedlu wedi eu torri i ffwrdd ar adeg ei farwolaeth, a dywedodd Dr Rodgers ei fod yn debygol ei fod wedi "gwaedu'n helaeth".
Daeth crwner gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson, i'r casgliad bod Roach wedi cymryd ei fywyd ei hun, ac anfonodd ei chydymdeimlad at ei deulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2022