Bangor: Marwolaeth dyn, 63, ddim yn amheus - heddlu
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai
Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud nad oes unrhyw amgylchiadau amheus ynghylch marwolaeth dyn a gafwyd hyd iddo ym Mangor y penwythnos diwethaf.
Y gred ydy bod Reginald Roach, 63, wedi'i ganfod mewn stad ddiwydiannol yn y ddinas fore Sul diwethaf gyda'i organau rhyw wedi'u torri i ffwrdd.
Cafodd ei gludo o Stad Ddiwydiannol Bryn Cegin i'r ysbyty ond bu farw.
"Yn dilyn Post Mortem gan y Swyddfa Gartref, ac i ddod â dyfalu annefnyddiol i ben, gallwn gadarnhau nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Reginald Alan Roach," meddai Heddlu'r Gogledd mewn datganiad.
Mae'r llu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd dyn oedrannus, tua 5'8 yn gwisgo jîns glas a thop hwdi llwyd yn yr ardal rhwng 10:00 fore Sadwrn, 5 Tachwedd a 09:00 ddydd Sul, 6 Tachwedd.
"Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach gan fod y mater yn parhau gyda'r Crwner Lleol," meddai llefarydd.
Cafodd cwest ei agor a'i ohirio gan Grwner Gogledd Orllewin Cymru yng Nghaernarfon ddydd Gwener.