Adran Dau: Casnewydd 1-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe lwyddodd Casnewydd i dalu'r pwyth yn ôl i Wrecsam ar ôl colli yn erbyn y Dreigiau cyn y Nadolig.
Dechreuodd y tîm cartref yn llawn pwrpas trwy roi amddiffyn Wrecsam dan bwysau a dyna arweiniodd at drobwynt mwyaf y gêm.
Fe gliriodd William Boyle y bêl ond fe gadwodd ei droed ei fyny yn beryglus. Cafodd gerdyn coch ar ôl 18 munud yn unig.
Wnaeth penderfyniad y dyfarnwr ddim plesio rheolwr y Dreigiau, Phil Parkinson, ac fe gafodd yntau gerdyn melyn.
Mae Wrecsam wedi ennill sawl gêm y tymor hwn gyda 10 dyn ond roedd heddiw yn gam yn rhy bell.
Sgoriodd Casnewydd ar ôl 34 o funudau gyda Seb Palmer-Houlden yn penio croesiad Ryan Delaney heibio i Arthur Okonkwo.
Mae Casnewydd yn codi i'r 14eg safle. Fe gollodd Wrecsam y cyfle i fynd i'r brig ond maen nhw yn parhau yn ail y tu ôl i Stockport.