Cwpan Pencampwyr Ewrop: Racing 92 48-26 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd Rygbi Caerdydd eu trechu oddi cartref gan Racing 92 ym Mharis brynhawn Sadwrn.
Fel y disgwyl dechreuodd y tîm cartref ar dân.
Ar ôl pedwar munud fe gafodd Racing gic gosb ar ôl i gap newydd Cymru Mackenzie Martin golli'r bêl ynghanol cae. Nolan Le Gerrec yn cicio trwy'r pyst.
Ond dair munud yn ddiweddarach roedd Caerdydd ar y blaen gyda'r prop Rhys Carre yn tirio'r bêl dan y pyst. Cafodd y cais ei drosi gan Tinus de Beer.
Ar ôl 18 munud roedd Racing yn ôl ar y blaen gyda'r wythwr Kitione Kamikamica yn croesi. Cafodd y cais hwnnw hefyd ei drosi.
Croesodd Siya Kolisi yn fuan wedyn i ymestyn mantais y tîm cartref i 15-7.
Fe gafodd cic arall gan Gaerdydd ei dwyn gan y gwrthwynebwyr toc ar ôl ychydig dros hanner awr. Y canlyniad oedd trydydd cais i Racing.
Ond roedd ysbryd Caerdydd yn dal yn iach a thair munud cyn hanner amser fe groesodd y mewnwr Tomos Williams i'w gwneud hi'n 20-12 i Racing ar yr egwyl.
Dechreuodd yr ail hanner yn debyg i batrwm yr hanner cyntaf, Racing yn cosbi camgymeriadau amddiffynnol Caerdydd.
Llwyddodd y cefnwr Tedder i gipio'r bêl rhag mynd dros y llinell ar yr asgell chwith ac fe groesodd yn y gornel. Ychwanegodd y trosiad ei hun.
Ychydig yn ddiweddarach sgoriodd Christian Wade gais arall ar yr asgell dde ar ôl brwydro ei ffordd am 20 metr trwy glwstwr o chwaraewyr oedd yn ceisio ei atal.
Gwaethygodd y sefyllfa i'r ymwelwyr yn fuan wedyn gyda'r eilydd Budonne yn sgorio cais gyda'i gyffyrddiad cyntaf ar ôl dod ar y cae.
O nunlle, cafodd Tomos Williams ail gais wedi iddo gyrraedd cic groesodd y llinell cyn yr amddiffynnwyr.
Roedd yna gais cysur arall i Gaerdydd pan sgoriodd De Beer.
Ar ôl i Aled Summerhill gael ei roi yn y gell gosb chwe munud cyn y diwedd fe fanteisiodd y tîm cartref ar y dyn ychwanegol gyda Janick Tarrit yn croesi ynghanol tomen o gyrff.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu y bydd Racing 92 ynghyd â Harlequins sydd ar frig Grŵp 2 yn ennill eu lle yn 16 olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop.