Dyn 68 oed o dde Cymru yn creu hanes ym Mhegwn y De

  • Cyhoeddwyd
alan a daveFfynhonnell y llun, Missionspiritus
Disgrifiad o’r llun,

Dave Thomas ac Alun Chambers yn plannu'r Ddraig Goch ym Mhegwn y De

Dyn o dde Cymru yw'r person hynaf i gyrraedd Pegwn y De heb gymorth.

Fe ddathlodd Dave Thomas o Flaendulais ger Port Talbot ei ben-blwydd yn 68 ym mis Rhagfyr tra'n cyflawni'r gamp o sgïo 733 milltir i waelod y byd.

Llwyddodd ef ac Alan Chambers, sy'n 56 oed, i gyrraedd y pegwn ar 19 Ionawr ar ôl 58 o ddyddiau yn brwydro ar yr iâ.

Roedd yn rhaid i'r ddau lusgo slediau trwm yn llawn cyflenwadau yr oedd eu hangen arnyn nhw i oroesi mewn tymheredd mor isel â -42C (-43F) yn ystod eu siwrne o ddeufis.

Dywedodd Dave Thomas ei bod hi'n demtasiwn weithiau teithio yn rhy gyflym.

"Er ein bod ni yn gwybod ein bod ni'n agos roeddem ni yn gwybod hefyd bod ganddom ni ddyddiau caled o'n blaenau o lusgo'r slediau, felly fe wnaethon ni lynu at ein rwtîn tan y diwedd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Royal Marines Charity
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r ddau lusgo slediau trymion trwy'r iâ am dros 700 milltir

Fe wnaethon nhw gynnal nifer o arbrofion gwyddonol ar hyd y ffordd tra'n codi dros £9,000 i elusen y Royal Marines.

Mae Alan Chambers yn hen law ar deithio yn yr Antarctig.

Mae wedi helpu i godi £15m i elusennau dros 30 mlynedd. Hwn oedd ei antur olaf gyda "theulu'r Royal Marines".

Dywedodd llefarydd ar ran elusen y Royal Marines: "Ry'n ni yn anfon llongyfarchiadau twymgalon i Alan a Dave ar gyflawni y gamp anhygoel yma."

Pynciau cysylltiedig