Dechrau newydd ar ôl damwain ddifrifol

  • Cyhoeddwyd
Gwyndaf Williams ar ol y ddamwain a heddiwFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwyndaf Williams yn ei gartref yn gwella wedi'r ddamwain, ac wrth ei waith heddiw

Tydi Gwyndaf Williams yn cofio dim am y ddamwain car ble torrodd ei wddf a daeth o fewn trwch blewyn i golli ei fraich.

Ond allan o'r sefyllfa arswydus honno mae wedi creu llwybr newydd iddo'i hun gan greu busnes sy'n mynd o nerth i nerth.

Hanner awr wedi pump y bore fis Hydref 2019 oedd hi ac yntau'n gyrru allan o'r Felinheli i weithio yn ffatri gaws Glanbia yn Llangefni.

Y peth diwetha' mae'n cofio ydi galw heibio siop yn y pentref cyn i'w gar fod mewn gwrthdrawiad difrifol.

"Be' sy'n eironig ydi nad oeddwn i hyd yn oed i fod yn gweithio'r diwrnod hwnnw - cyfro am rywun arall oeddwn i," meddai.

"Dwi'n rhyw fath o gofio bod mewn ambiwlans ac ambell i snapshot arall, ond mae 'na dri diwrnod o 'mywyd i nad oes genna'i unrhyw gof ohonyn nhw rili."

'Sgrechian mewn poen'

Yn ogystal ag anafiadau difrifol i'w fraich dde roedd Gwyndaf hefyd wedi torri ei asgwrn cefn wrth fôn ei war.

Unwaith y cyrhaeddodd yr ysbyty yn Stoke roedd mewn poen echrydus.

"Yn ôl be' dwi wedi dallt wedyn, roeddwn i'n sgrechian mewn poen - diolch byth nad ydw i'n cofio hynny - ac fe wnaethon nhw injectio fy ysgwydd hefo rhywbeth wnaeth blocio'r holl nerfau yn fy mraich a stopio'r boen," meddai.

Roedd yna dîm o bum llawfeddyg yn asesu ei achos, a'r ffordd orau i'w drin. Ond doedden nhw ddim yn obeithiol.

"Allan o'r pump yna, roedd pedwar yn meddwl mai torri'r fraich i ffwrdd, amputatio, fyddai'r peth gorau.

"Ond roedd y pumed yn meddwl bod yna lygedyn o obaith, a diolch byth, roedd y lleill yn fodlon iddi roi cynnig arni.

"Annie Bennett ydi'i henw hi ac fe fydda'i, yn amlwg, yn ddiolchgar iddi am weddill fy mywyd.

"Y diwrnod ar ôl y ddamwain roeddwn i yn y theatr yn cael llawdriniaeth am 12 awr - ac fe wnaeth y tîm wyrthiau.

"Er nad oes genna'i benelin gwerth sôn amdano rŵan a nesa peth i ddim symudiad yn y rhan honno o mraich, rydw i'n gallu defnyddio fy llaw dde cryn dipyn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Nel y ci yn helpu adferiad Gwyndaf, sy'n wreiddiol o Lanfairpwll ond bellach yn byw yn Y Felinheli

Ac roedd y broses o wella yn un hir iawn, meddai.

"Roeddwn i ar morffin am bedwar mis ac mewn coler oherwydd y toriad yn fy asgwrn cefn am chwe mis.

"Eistedd yn y gadair hefo Nel y ci wrth fy ochr i yn edrych ar yr olygfa dros y Fenai tua Llanfairpwll oeddwn i - roedd hwnna'n rhan bwysig o'r broses wella. Ac roedd Nel hefyd yn gefn mawr i fi ar y pryd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwyndaf ar y ffordd adref o ysbyty arbenigol Stoke, heb goler o gwmpas ei wddf am y tro cynta mewn pedwar mis

Ond allan o hyn i gyd, mae Gwyndaf wedi datblygu busnes llwyddiannus sy'n mynd o nerth i nerth.

Cyn y ddamwain roedd wedi dechrau busnes bach yn trefnu gwyliau i bobl.

"Jysd rhyw ddau neu dri booking y mis, ond roeddwn i'n mwynhau'r gwaith yn ofnadwy," meddai.

Colli gwaith

Ond chwe mis wedi'r ddamwain, ym mis Ebrill 2020, cafodd Gwyndaf ei daro gan ddwy ergyd arall.

Daeth ei dâl salwch gyda'i gyflogwr i ben wrth i gyfnodau clo Covid-19 wneud teithio i unman yn amhosibl.

Roedd yn amlwg bellach na allai fyth fynd yn ôl i weithio ar y peiriannau yn y ffatri a phenderfynodd fynd amdani hefo'i fusnes bach trefnu gwyliau - ond doedd yr amseru ddim yn wych a dweud y lleia'.

"Roedd Covid yn golygu na wnaeth 'run o 'nghwsmeriaid allu hedfan am flwyddyn.

"Doedd 'na'm ceiniog yn dod i mewn a doeddwn i ddim yn eligible am unrhyw grant. Roedd o'n amser anodd iawn ac rydw'i mor ddiolchgar i 'nheulu am eu cefnogaeth yn ystod yr adeg yna."

Dechrau newydd

Yna, yng ngwanwyn 2021 dechreuodd y diwydiant gryfhau. Roedd busnes Gwyndaf, oedd yn gweithio o'i gartref gan hysbysebu ar y cyfryngau cymeithasol, hefyd yn ffynnu.

Fe benderfynodd o a Carys, ei wraig, brynu hen siop trin gwallt yn Y Felinheli i'w hadfer a'i throi yn siop a swyddfa i Gwyndaf.

Disgrifiad o’r llun,

Gwyndaf, enillodd wobr Aelod y Flwyddyn gan y grŵp teithio Independent Travel Experts llynedd, yn ei le gwaith newydd

"Roedd 2022 yn flwyddyn dda iawn i'r busnes," meddai. "Roedd pobl fel pe baen nhw isho gwario mwy ar drefnu eu gwyliau. Doedden nhw heb wario'r flwyddyn flaenorol, felly roedd ganddyn nhw fwy o bres yn eu pocedi."

Wedyn dros y Nadolig 2023, ar ôl dwy flynedd o waith, fe agorodd yr hen siop trin gwallt fel siop trefnu gwyliau.

"Dwi'n falch ofnadwy 'mod i wedi agor y siop," meddai Gwyndaf, sy'n dod o Lanfairpwll yn wreiddiol ond yn byw yn Y Felinheli bellach ers 10 mlynedd. "Roedd genna'i nifer o gwsmeriaid ffyddlon oedd yn dod 'nôl ata'i gan eu bod nhw yn fy nhrystio i.

"Ond gan mai ar-lein roeddwn i'n hysbysebu, ychydig iawn ohonyn nhw oedd yn dod o'r Felin.

"Ers agor y siop mae'r busnes wedi tyfu eto, a nifer fawr o'r cwsmeriaid newydd yna yn bobl o'r pentre'."

Drws yn cau... un arall yn agor

O edrych yn ôl ar yr hyn mae wedi mynd drwyddo mae Gwyndaf yn ystyried tybed a oedd ffawd wedi chwarae rhan.

"Roedd y flwyddyn gymrodd hi i fi adfer fy iechyd yn anodd iawn - roeddwn i'n teimlo 'mod i'n faich ar bawb. Roeddwn i wedi colli fy annibyniaeth ac yn gorfod gofyn ffafr gan rywun bob tro roeddwn i isho mynd i rywle.

"Ond does gennai'm geiriau digonol i ddisgrifio'r gefnogaeth ges i gan fy nheulu, yn ymarferol ac yn ysbrydol. Gan Carys a'm llysblant Daniel a Cara Mai, a gan fy mrawd Gareth a'n nhad.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwyndaf gyda'i wraig Carys, ar wyliau llong

"Roedd hi'n anoddach iddyn nhw mewn lot o ffyrdd. Pan oeddwn i wedi 'mhlygio mewn i weiars a pheiriannau o bob math, neu pan oeddwn i'n gweld nadroedd ar y ceiling oherwydd y cyffuriau roeddwn i'n cymryd, y nhw oedd yn gweld a chlywed hynny a gorfod delio hefo fo.

"Dwi'n mynd yn emosiynol pan dwi'n meddwl am y peth.

"Ond mae Carys yn gredwr cryf mewn ffawd. Pan mae un drws yn cau, mae 'na un arall yn agor, medde hi. A dyna sy' wedi digwydd i fi."

Pynciau cysylltiedig