98 o swyddi yn y fantol yn Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Nidec Control TechniquesFfynhonnell y llun, Control Techniques
Disgrifiad o’r llun,

Pencadlys Nidec Control Techniques yn Y Drenewydd

Mae cwmni Nidec Control Techniques wedi cyhoeddi cynlluniau a allai arwain at golli 98 o swyddi yn eu ffatri yn Y Drenewydd.

Mae'r cwmni'n cynhyrchu darnau ar gyfer cyfrifiaduron ac yn dweud bod mwy o werthu eu cynnyrch yn Asia a Gogledd America yn galw am fuddsoddi yn y gwledydd hynny.

Yn flaenorol fe gododd nifer y swyddi yng Nghymru yn sgil mwy o alw am y cynnyrch wedi'r pandemig.

Dywedodd Martyn Cray, Is-Lywydd Gweithrediadau Byd-eang y cwmni: "Mae'n anodd rhagweld gofynion y farchnad yn ddiweddar sy'n golygu bod cynllunio cynhyrchu yn anodd dros ben.

"Rydym yn drist o gymryd y camau yma heddiw, ac rydym wedi oedi cyn hired â phosib wrth geisio canfod hyder yn nyfodol y farchnad.

"Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein hadnoddau a'n pobl er mwyn cefnogi ein dyheadau i dyfu yn y dyfodol."

Ychwanegodd Anthony Pickering, Llywydd Nidec Control Techniques: "Roedd angen y cynlluniau yma er mwyn adeiladu busnes mwy cynaliadwy, ac yn anffodus does dim modd oedi ymhellach.

"Rwy'n gwybod y bydd hyn yn gyfnod anodd ac ansicr i'r gweithwyr a'u teuluoedd.

"Rydym wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr allweddol yn yr ardal ac yn bartner dibynadwy yn ein marchnadoedd lleol ac ar draws y byd."

Bydd proses ymgynghori yn dechrau yn fuan gyda'r gweithwyr a'u cynrychiolwyr.

Dywedodd y cwmni y byddan nhw'n gwneud pob ymdrech i sicrhau diswyddiadau gwirfoddol ond ei bod yn bwysig cadw rhai sgiliau allweddol.

Pynciau cysylltiedig