Claf yn aros pum mlynedd am glun wedi gwall rhestr aros
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion wedi cael eu trin yn annheg oherwydd gwallau difrifol yn y ffordd mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi rheoli rhestrau aros orthopedig, yn ôl ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mae'r adroddiad beirniadol hefyd yn codi pryderon am amseroedd aros o dros bedair blynedd am lawdriniaethau.
Mae'r Ombwdsmon wedi bod yn ymchwilio i dri achos lle cafodd cleifion eu tynnu oddi ar restr aros drwy gamgymeriad er eu bod nhw eisoes wedi bod yn aros am driniaeth ers blynyddoedd.
Cwblhaodd yr Ombwdsmon, Michelle Morris, dri ymchwiliad ar wahân, sy'n codi cwestiynau am reolaeth y bwrdd iechyd o'r holl restrau aros.
Mae'r bwrdd iechyd wedi "ymddiheirio'n ddiffuant" ac yn derbyn yr holl argymhellion.
Ymchwiliad 1
Fe gafodd Mrs B ei chyfeirio at yr ysbyty yn 2018 am boen yn ei chlun dde ac eto yn 2021 am boen yn ei chlun chwith.
Fe gafodd yr atgyfeiriad ei gau ar gyfer ei chlun chwith mewn camgymeriad, ond yn 2023 fe gafodd driniaeth ar ei chlun chwith - gan ei bod yn waeth o safbwynt clinigol.
Fe gafodd ei thynnu oddi ar y rhestr aros ar gyfer ei chlun dde, er bod angen triniaeth arni o hyd.
Ar ôl 5 mlynedd o aros roedd hi mewn poen difrifol.
Ymchwiliad 2
Fe gafodd Mr C wybod ei fod angen llawdriniaeth i'w glun dde o fewn mis o gael ei weld, ond bu'n aros am 43 mis - 3 blynedd 7 mis - mewn poen difrifol.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe gafodd ei ail osod ar y rhestr aros mewn camgymeriad ac fe gafodd ei enw ei dynnu oddi ar y rhestr mewn camgymeriad hefyd.
Ymchwiliad 3
Fe gafodd Mr D ei dynnu oddi ar y rhestr aros am driniaeth i'w ysgwydd pan fethodd apwyntiadau llawfeddygol oherwydd ei fod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am salwch arall.
Er gwaethaf y ddarpariaeth yn y canllawiau ar gyfer y math hwn o sefyllfa, fe gafodd ei dynnu oddi ar y rhestr ac roedd yn aros "ei dro" i gael ei drin, sy'n ymddangos fel pe bai y tu allan i'r broses.
Derbyniodd Mr D driniaeth ym mis Ionawr 2024, 65 mis - mwy na 5 mlynedd - ar ôl cael ei ychwanegu at y rhestr aros am lawdriniaeth.
Profodd Mr D lawer o boen, ac effeithiodd hyn yn sylweddol ar ei les.
Daeth yr Ombwdsmon i gasgliad fod pob un o'r cleifion wedi profi'r "straen a phoen" o gael asesiadau cyn llawdriniaeth, a bod hyn wedi codi'u gobeithion "ar gam" y byddai llawdriniaeth yn digwydd yn fuan.
Yn ôl yr Ombwdsmon, Michelle Morris, roedd hyn yn "dangos anghyfiawnder amlwg i'r cleifion".
"Dylai cleifion sydd eisoes yn wynebu amseroedd aros hir deimlo y gallan nhw ddibynnu ar y bwrdd iechyd i reoli'r rhestr aros yn dda ac yn unol â'r canllawiau sy'n ymwneud â rhestrau aros."
Amlygodd yr ymchwiliad hefyd yr oedi sy'n cael ei brofi gan nifer o gleifion am driniaeth orthopedig o ganlyniad i broblemau fel prinder staff, diffyg llefydd addas ar gyfer llawdriniaethau a threfniadau rheoli aneglur.
Mae'n argymell bod y bwrdd iechyd yn adolygu penderfyniadau ac yn archwilio'r rhestr aros gyfan er mwyn darganfod a yw camgymeriadau tebyg wedi digwydd mewn achosion eraill.
Dywedodd Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cymru fod "pawb yn gwybod mae'r amseroedd aros am lawdriniaeth orthopedig yn hir ond mae pawb yn disgwyl eu bod nhw'n cael eu trin mewn ffordd deg".
Ychwanegodd y dylai'r byrddau iechyd "ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a dim dyna sydd wedi digwydd yn yr achosion hyn".
Dywedodd bod yr effaith ar y tri chlaf dan sylw yn "codi pryder am sut mae pawb arall yn cael eu trin gan y bwrdd iechyd".
Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn mynnu fod yr holl argymhellion yn cael eu gweithredu.
Dywedodd y bwrdd bod y tri chlaf bellach wedi derbyn eu llawdriniaethau.
Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd: "Rydym yn gwirio ein rhestrau aros orthopedig i sicrhau nad oes achosion tebyg eraill, ac os oes, byddwn unwaith eto yn cyflymu triniaethau'r cleifion hynny."
"Rydym bellach wedi ailsefydlu 10 gwely wedi'u clustnodi yn Nhreforys yn benodol ar gyfer y grŵp hwn o gleifion ag anghenion iechyd cymhleth.
Erbyn diwedd Mawrth mae'r bwrdd iechyd yn mynnu na fydd neb wedi aros dros dair blynedd gyda'r mwyafrif o gleifion yn cael triniaeth yn gynt.
Beth mae'r data'n ei ddangos am restrau aros Bae Abertawe?
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos, ym mis Tachwedd, fod rhestrau aros am driniaethau orthopedig neu drawma ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe yn 15,578.
O'r rhain mae 1,587 - dros 10% - wedi bod yn aros dros ddwy flynedd.
Ddydd Mawrth cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ei bod cynyddu goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o'r bwrdd i lefel "ymyrraeth wedi'i thargedu" - yr ail lefel uchaf ar gyfer perfformiad a chanlyniadau.
Roedd hyn yn rhannol, yn ôl Eluned Morgan, oherwydd diffyg cynnydd o ran lleihau rhestrau ac amseroedd aros.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod camau yn cael eu cymryd i sicrhau nad yw'r camgymeriadau hyn yn arwydd o broblem ehangach.
"Mae'n ddrwg gen i glywed am unrhyw achos lle dyw claf ddim yn derbyn y driniaeth maen nhw ei angen, neu mae rhyw gamgymeriad yn digwydd," meddai.
"Dwi'n gwybod fod y bwrdd iechyd wedi ymddiheuro yn uniongyrchol i'r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio, ond mae'r bwrdd hefyd wedi cyflwyno mesurau i sicrhau nad yw'r achosion prin yma sydd wedi dod i'r amlwg hyd yma - yn arwydd o broblem ehangach.
"Dylai pobl sy'n byw yn lleol fod yn hyderus o'r ffaith fod yna waith yn cael ei wneud i sicrhau nad yw pobl sy'n aros am driniaeth yn cael eu tynnu o restrau aros mewn camgymeriad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd13 Awst 2023