Cynnydd arall yn y nifer sy'n aros am driniaeth GIG
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sydd ar restrau aros am driniaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cynyddu eto, ond mae amseroedd aros am ambiwlans ac yn adrannau damweiniau ysbytai wedi gwella yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Caiff y ffigyrau eu mesur trwy ddefnyddio "llwybrau cleifion" gan y gall un person fod ar fwy nag un rhestr, ac fe gododd y ffigwr hwnnw i 748,000 ym mis Mehefin - cynnydd o tua 5,000.
Mae hynny'n cyfateb i tua 584,000 o gleifion unigol, sydd yn 1,600 yn fwy o bobl na'r mis blaenorol.
Nid yw dau brif darged Llywodraeth Cymru - sef taclo rhestr o bobl sy'n disgwyl mwy na dwy flynedd am driniaeth, neu flwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf - wedi cael eu cyrraedd.
Y gobaith oedd na fyddai unrhyw un yn disgwyl mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf erbyn diwedd y flwyddyn ddiwethaf, ond mae'r ffigwr yna yn dal o gwmpas 52,400.
Mae ffigyrau triniaeth ganser yn isel hefyd, gyda 54.1% o achosion yn cael eu trin o fewn y targed o 62 diwrnod - i lawr o 55.3% yn y mis blaenorol.
Ond er hynny, dylid nodi fod mwy o bobl wedi dechrau triniaeth canser, a mwy hefyd wedi cael gwybod nad oedd ganddyn nhw ganser - mae hyn yn awgrymu bod mwy o bobl yn dod drwy'r system.
Rhai gwelliannau
Roedd ambell ffigwr positif yn y canlyniadau diweddaraf.
Mae amseroedd ymateb ambiwlansys Cymru ar eu gorau ers Chwefror 2022, gyda 54.6% o'r galwadau mwyaf brys yn cael ymateb o fewn wyth munud.
Yn ogystal, er bod mwy o bobl wedi mynd i adrannau brys ysbytai Cymru bob dydd nag erioed o'r blaen, fe wnaeth y perfformiad yn erbyn y targedau o aros am bedair neu 12 awr wella rywfaint.
'Calonogol, ond siom hefyd'
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r GIG yng Nghymru yn parhau i weld lefel uchel o alw, ond mae gwelliant pellach wedi bod ym mherfformiad gofal brys ac amseroedd ymateb ambiwlans, ac fe wnaeth yr amseroedd aros hiraf am driniaeth leihau eto.
"Mae'n galonogol hefyd gweld gwelliant wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, a lleihad yn yr amser disgwyl am fynediad i adrannau brys/damweiniau.
"Er ei bod yn siom gweld y nifer ar restrau aros yn gyffredinol gynyddu, lleihau wnaeth y nifer sy'n aros dwy flynedd am driniaeth am y 14eg mis yn olynol, ac mae'r amser aros cyfartalog hefyd i lawr i 19.1 wythnos a hynny er gwaethaf gŵyl banc ychwanegol a gweithredu diwydiannol.
"Mae ein staff ymroddedig yn gweithio'n galed i ddarparu gofal o safon uchel bob dydd.
"Mae'r Gweinidog wedi gosod targedau newydd i daclo'r amseroedd aros hiraf, ac fe fyddwn ni'n parhau i gefnogi'r staff i wella perfformiad."
Ond fe wnaeth llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Russell George AS, feirniadu Llafur am "gamreoli" y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ers 24 mlynedd.
"Dydy o ddim yn iawn fod Lloegr fwy neu lai wedi cael gwared ar amseroedd aros o ddwy flynedd," meddai.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lafur i gyflwyno hybiau llawdriniaeth ar frys, fel wnaethon nhw yn Lloegr, i ddelio gyda'r nifer ychwanegol o achosion. Ond hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi ein hanwybyddu."
'Mater o fyw neu farw'
Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y byddan nhw'n delio gyda'r achosion mwyaf llym ar y rhestrau aros.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Mabon ap Gwynfor AS: "5,000 yn fwy ar restrau aros a dim ond un o bob dau glaf canser yn derbyn triniaeth o fewn y targed - dyma lywodraeth sy'n methu mynd i'r afael gyda'r cwlwm yn ein GIG.
"Mae taclo'r problemau hir-dymor yn dechrau a gorffen gyda thrin staff yn deg. Mae gallu cynnig cyflog ac amodau gwaith teg i staff yn gam cyntaf, oherwydd er mwyn lleihau rhestrau aros mae'n rhaid cael y bobl yna i wneud hynny.
"Mae'n bryderus iawn gweld bod targedau i gleifion canser yn gwaethygu. Mae hyn yn fater o fyw neu farw ac nid dim ond yn fater rhwng pleidiau gwleidyddol, felly mae'n rhaid gweld gwelliant fel mater o frys - wedi'r cyfan mae'n effeithio ar bob un ohonom ni.
"Mae Plaid Cymru yn fodlon gweithio'n gydweithredol i sicrhau canlyniadau gwell i bobl, ond mae'n rhaid i ni weld cynllun gan Lywodraeth Cymru am sut y maen nhw am ddeli gyda'r achosion mwyaf llym ar y rhestrau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd21 Mai 2023