Toni Schiavone: Achos llys arall yn bosib dros dâl parcio £70

  • Cyhoeddwyd
Toni Schiavone
Disgrifiad o’r llun,

Toni Schiavone: "Mae'n costio llai i gyfieithu llythyr i'r Gymraeg nag y mae'n costio i'r erlyniad i ddod yma i ymladd yr achos"

Mae'n bosib y bydd ymgyrchydd iaith yn wynebu gwrandawiad llys arall am iddo wrthod talu tâl parcio oedd wedi cael ei rhoi yn uniaith Saesneg.

Bu Toni Schiavone yn y llys am y trydydd tro ddydd Gwener wrth i gwmni One Parking Solution (OPS) apelio yn erbyn dyfarniad o fis Mai 2022, pan fethodd y cwmni yn ei gais i orfodi Mr Schiavone i dalu'r taliad o £70.

Mae Mr Schiavone yn gwrthod talu hyd nes iddo gael yr ohebiaeth yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

Yn yr achos gwreiddiol, roedd y barnwr wedi gwrthod cais y cwmni gan nad oedd neb yn y llys i gynrychioli OPS.

Ond yn y llys apêl ddydd Gwener, dyfarnodd y Barnwr Gareth Humphreys bod hynny yn anghywir a bod afreoleidd-dra gweithredol difrifol wedi'i gyflawni.

Yn siarad wedi'r gwrandawiad ddydd Gwener, dywedodd Toni Schiavone: "Gallai'r mater yma wedi cael ei datrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Hysbysiad Cosb Parcio Cymraeg neu ddwyieithog.

"Mae'n amlwg erbyn hyn bod gan yr hawlydd mwy o ddiddordeb mewn dial na mewn dangos parch at y Gymraeg a darparu Taleb Cosb Parcio.

"Yn fy marn i mae'r hawlydd wedi ymddwyn ym amharchus, yn afresymol ac yn ddialgar.

"Fe wnaeth One Parking Solutions gyflwyno costau o £10,156.70 i fi mewn llythyr ddoe hefyd. Mae hynny'n hollol amhriodol, yn fygythiad diangen ac yn dangos mai dial yw nod y cwmni."

Beth yw'r cefndir?

Derbyniodd Mr Schiavone y rhybudd gwreiddiol ym Medi 2020 am beidio talu OPS am barcio mewn maes parcio yn Llangrannog.

Roedd Mr Schiavone, aelod o Gymdeithas yr Iaith, wedi gwrthod talu'r £70 oherwydd bod yr hysbysiad a'r gwaith papur yn uniaith Saesneg. 

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith byddai cyfieithu'r rhybudd, ac osgoi tair achos llys dros gyfnod o dair blynedd a hanner, wedi costio rhwng £60 a £70.

Doedd y cwmni ddim yn bresennol ar gyfer yr achos cyntaf a chafodd yr ail achos ei daflu o'r llys am ei fod wedi'i gyflwyno yn hwyr ac o dan yr amodau anghywir.

Doedd peidio ystyried y dystiolaeth am nad oedd neb yn bresennol o OPS ddim yn opsiwn i'r barnwr gwreiddiol yn ôl y rheolau, medd y Barnwr Humphreys, gan ychwanegu bod gan y cwmni yr hawl i'r achos gael ei glywed ar sail y papurau yn unig.

Dywedodd y Barnwr Humphreys hefyd bod mater ieithyddol yr achos yn "dal yn fyw" ac nad oedd yr apêl wedi ystyried hynny.

Ychwanegodd y barnwr, fel arfer mewn achosion lle mae apêl yn llwyddiannus y byddai ef fel arfer yn cyfeirio'r achos yn ôl i'r llys gwreiddiol i'w ail gynnal.

Yn yr achos hwn, mae'r barnwr wedi atal yr achos am 28 diwrnod i roi cyfle i OPS i ystyried a yw am barhau i fynd â Toni Schiavone i'r llys.

Wrth agor y gwrandawiad, dywedodd y Barnwr Humphreys fod yr achos hwn wedi bod yn un hir a chymhleth iawn, ac yn anghymesur â'r swm ariannol sy'n cael ei hawlio.

Disgrifiad o’r llun,

Bu rhai o gefnogwyr Mr Schiavone y tu allan i'r llys yn un o'r achosion blaenorol

Dywedodd Cai Phillips, Is-gadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith: "Mae agwedd y cwmni yn gwbl hurt.

"Rydym ni wedi cael gwybod gan sawl cwmni cyfieithu y byddai cost cyfieithu'r rhybudd gwreiddiol i'r Gymraeg rhwng tua £60 a £70.

"Ond, yn lle gwneud hyn a pharchu hawl Mr Schiavone, mae One Parking Solution wedi mynnu mynd i'r llys am y trydydd tro gan dalu'r holl ffioedd cyfreithiol costus yn y broses.

"Mae'r anghydfod yma'n adlewyrchu methiannau ehangach Mesur Iaith 2011 i warantu hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector preifat.

"Yn ddiweddar, fe gollodd cwsmeriaid HSBC y gallu i ffonio eu banc trwy gyfrwng yr iaith. Ddydd Sadwrn roedd rhai yn picedu Swyddfa Bost Aberystwyth oherwydd agwedd wrth-Gymraeg a diffyg gwasanaeth Cymraeg yno. 

"Ers i ni ddechrau ein hymgyrch i beidio talu rhybuddion parcio uniaith Saesneg, mae unigolion ar hyd a lled Cymru wedi gwrthod talu ac mewn sefyllfaoedd tebyg i Toni.

"Mae'n allweddol ein bod yn parhau i bwyso i gryfhau Mesur Iaith 2011 ei hun yn ogystal â'i weithrediad."