Toni Schiavone: Taflu allan achos wedi dirwy parcio Saesneg

  • Cyhoeddwyd
Toni Schiavone
Disgrifiad o’r llun,

Toni Schiavone: "Mae'n costio llai i gyfieithu llythyr i'r Gymraeg nag y mae'n costio i'r erlyniad i ddod yma i ymladd yr achos"

Mae achos llys yn erbyn aelod o Gymdeithas yr Iaith wnaeth wrthod talu dirwy parcio wedi cael ei daflu allan gan farnwr yn Aberystwyth.

Derbyniodd Toni Schiavone ddirwy o £70 gan gwmni One Parking Solution ar ôl parcio yn Llangrannog ym mis Medi 2020.

Cafodd ei erlyn wedi iddo wrthod talu'r ddirwy gan nad oedd y rhybudd cosb na'r ohebiaeth gan y cwmni yn Gymraeg.

Roedd Mr Schiavone yn y llys ddydd Gwener wrth i One Parking Solution barhau i geisio cael y taliad ganddo.

Ond mewn gwrandawiad dwyieithog fe wnaeth y Dirprwy Farnwr, Owen Williams, wrthod cais y cwmni, gan ddweud ei fod yn ddiffygiol.

Dywedodd bod y cais wedi ei wneud ar sail rheol nad oedd yn berthnasol i hawliadau bychain, fel yn achos Mr Schiavone.

Ychwanegodd y barnwr nad oedd am wastraffu rhagor o amser ar y mater gan ddweud wrth Richard Mullan - bargyfreithiwr One Parking Solution - ei fod wedi ei gynghori yn wael gan gyfreithiwr y cwmni.

Ddydd Gwener roedd Toni Schiavone yn y llys am y trydydd tro yn sgil y ddirwy.

Fis Mai y llynedd oedd y tro cyntaf, pan ofynnodd Mr Schiavone am wrandawiad yn y Gymraeg.

Doedd neb yno bryd hynny ar ran One Parking Solution, ac ni aeth yr achos yn ei blaen.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai o gefnogwyr Mr Schiavone y tu allan i'r llys

Ar ôl i'r dirprwy farnwr wrthod cais y cwmni ddydd Gwener, roedd cymeradwyaeth gan y 12 o gefnogwyr Toni Schiavone oedd y tu allan i'r llys.

Cafodd One Parking Solution orchymyn i dalu costau teithio o £27.90 i Mr Schiavone, a ddywedodd wrth y llys y byddai'n rhoi'r swm i elusen ganser.

'Diffyg parch i'r Gymraeg ac i Gymru'

Ar ôl y gwrandawiad dwedodd Mr Schiavone: "Mae'n drueni bod fi'n gorfod mynd gerbron llys i ymladd rhywbeth mor bitw â hyn. Mae'n costio llai i gyfieithu llythyr i'r Gymraeg nag y mae'n costio i'r erlyniad i ddod yma i ymladd yr achos yma.

"Mae'n mynd nôl i Fedi 2020 - mae'r ffaith bod y cwmni yma mor awyddus i erlid fi dros yr amser yna yn hytrach na pharatoi rhywbeth hollol syml fel rhoi llythyr yn y Gymraeg yn dangos diffyg parch i'r Gymraeg ac i Gymru."

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio ymgyrch yn sgil yr achos yma. Maen nhw'n annog pobl i beidio talu ffioedd parcio mewn meysydd parcio sydd ddim yn arddangos arwyddion dwyieithog.

Dywedodd Sian Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith: "Mae 'na gannoedd o'r meysydd parcio preifat yma trwy Gymru ac ar y cyfan dydy'r cwmnïau yma ddim yn fodlon defnyddio'r Gymraeg.

"Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac mae'r cwmnïau yma yn gwneud elw mawr - maen nhw'n ddigon hapus i gymryd arian pobl Cymru ond maen nhw'n gwrthod defnyddio'n hiaith.

"Felly 'da ni'n lansio ymgyrch lle fydd pobl yn gallu rhoi rhybudd yn y car yn dweud bod nhw ddim yn mynd i dalu am y parcio nes bod y cwmni yn gweithredu yn Gymraeg."

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i osod safonau Cymraeg sy'n berthnasol i bob cwmni sy'n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys banciau ac archfarchnadoedd.

Wedi'r gwrandawiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn awyddus i weld pob sector yn cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg ac mae cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaethi ni.

"Fel llywodraeth, rydym yn canolbwyntio ar gamau ag effaith ystyrlon ac ymarferol o ran hybu'r Gymraeg a sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Fel rhan o hyn, rydym ar hyn o bryd yn dilyn rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau Cymraeg o fewn mwy o sectorau dros y blynyddoedd nesaf."

Pynciau cysylltiedig