Caerdydd i gynnal rowndiau terfynol rygbi Ewrop 2025
- Cyhoeddwyd
Mae Stadiwm Principality yng Nghaerdydd wedi ei ddewis i gynnal rowndiau terfynol Cwpan Her a Chwpan Pencampwyr Ewrop yn 2025.
Bydd y gemau - sef pinacl rygbi rhanbarthol a chlwb - yn ymweld â'r brifddinas am y tro cyntaf ers 2014, ar ôl i Gaerdydd ddod i'r brig ymhlith 12 o wledydd er mwyn sicrhau'r fraint.
Mae'r tymor nesaf yn nodi 30 mlynedd ers cynnal cystadleuaeth Cwpan Ewrop am y tro cyntaf.
Y Stadiwm Cenedlaethol yng Nghaerdydd wnaeth gartrefu'r rowndiau terfynol yn 1996 a 1997.
Mae'r trefnwyr, EPCR, hefyd wedi cadarnhau mai Stadiwm San Mames, Bilbao, fydd cartref y rowndiau terfynol yn 2026.
Dywedodd Dominic McKay, cadeirydd EPCR: "Mae dychwelyd i Gaerdydd 30 mlynedd wedi'r rownd derfynol gyntaf eiconig hwnnw yn golygu llawer iawn i ni a'n ffrindiau yma yn y ddinas, a byddwn yn dathlu'r garreg filltir yn briodol.
Ychwanegodd y byddai Caerdydd "nid yn unig yn falch o gynnal y penwythnos hanesyddol hwn, ond hefyd yn croesawu cefnogwyr rygbi o bob cwr o'r byd".
Mae Caerdydd wedi cynnal y rownd derfynol saith gwaith yn y gorffennol, gyda rownd derfynol 2014 yn dod a £24m i'r ddinas, yn ôl Cyngor Caerdydd.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: "Rydym wrth ein bodd bod Stadiwm Principality wedi ei ddewis i gynnal prif gystadleuaeth Ewrop, yn y flwyddyn rydym yn dathlu pen blwydd ein stadiwm godidog yn 25 oed."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Ionawr