Gwrthod cyfyngu gemau'r Chwe Gwlad i sianeli di-dâl
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi nad oes unrhyw gynlluniau i orfodi'r undebau rygbi i wneud gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar gael ar sianeli teledu di-dâl yn unig.
Roedd gweinidogion wedi bod o dan bwysau gan ASau o Gymru i ychwanegu gemau'r bencampwriaeth i'r rhestr o gampau chwaraeon na ellir eu darlledu ar sianeli y mae'n rhaid talu'n ychwanegol amdanynt.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod y trefniadau presennol "yn gweithio'n dda er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau".
Ond dywedodd grŵp trawsbleidiol o ASau eu bod wedi eu siomi gyda'r ymateb.
Mae Deddf Ddarlledu 1996 yn gorchymyn bod cyfres o ddigwyddiadau chwaraeon 'Grŵp A' yn aros ar deledu di-dâl.
Yn eu plith mae holl gemau Cwpan y Byd pêl-droed, rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd, y Gemau Olympaidd a rowndiau terfynol Wimbledon, sy'n golygu bod yn rhaid eu darlledu ar deledu am ddim, fel y BBC, ITV, S4C neu Channel 4.
Ond nid yw gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y rhestr honno.
Yn hytrach mae'n ymddangos ymysg campau 'Grŵp B', sy'n dweud y gellir dangos y gemau yn fyw ar wasanaeth tanysgrifio cyn belled â bod uchafbwyntiau'n cael eu cynnig i sianeli di-dâl.
Roedd Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin wedi galw am gynnwys y Chwe Gwlad ymysg y campau 'Grŵp A', gan rybuddio y gallai eu cyfyngu i sianeli premiwm leihau ymwybyddiaeth o'r gamp.
'Siomedig'
Yn ymateb i'r pwyllgor dywedodd Llywodraeth y DU fod y "rhestr bresennol o ddigwyddiadau yn gweithio'n dda i sicrhau'r canlyniad gorau" a'i fod "yn taro cydbwysedd priodol ac felly nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gynnal adolygiad llawn o'r rhestr".
Dywedodd, yn y "lle cyntaf", y dylai Llywodraeth Cymru "asesu'n gynhwysfawr" a oes "ar hyn o bryd y cydbwysedd iawn rhwng gallu deiliaid hawliau gemau Cymru i gynhyrchu digon o incwm i fuddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru, a mynediad cynulleidfaoedd Cymru at chwaraeon".
Byddai Llywodraeth y DU, meddai llefarydd, wedyn yn trafod yr ystyriaethau hynny.
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, yr AS Ceidwadol Stephen Crabb: "Er ein bod yn siomedig wrth gwrs nad yw Llywodraeth y DU yn teimlo bod angen diwygio'r digwyddiadau rhestredig i gynnwys y Chwe Gwlad, mae'r gefnogaeth gyffredinol y mae'n ei chynnig i'r sector darlledu yng Nghymru yn cael croeso cynnes."
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gwybod bod yna agenda allan yna. Rydyn ni'n gwybod bod yna bobl yn gwthio i'r Chwe Gwlad gael ei farchnata i bwy bynnag sy'n cynnig yr arian mwyaf."
"Rydyn ni jest yn credu bod rhywbeth mewn perygl o gael ei golli yma i'r genedl, o ystyried pwysigrwydd y Chwe Gwlad i'n bywyd cenedlaethol, i'n diwylliant a'n treftadaeth.
"Rydyn ni'n dal i feddwl bod achos cryf iawn i'r llywodraeth amddiffyn y gystadleuaeth."
'Parhau i gefnogi darlledu yng Nghymru'
Ond dywedodd hefyd fod yr ymateb gan Lywodraeth y DU yn "amlinellu nifer o fentrau a pholisïau sy'n parhau i gefnogi darlledu yng Nghymru".
Mewn adroddiad y llynedd fe alwodd y pwyllgor ar y llywodraeth i roi sicrwydd y byddai adolygiad o ffi'r drwydded yn cynnwys cyfeiriad at ddiogelu darlledu Cymraeg.
Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'r adolygiad yn "llawn ystyried ei hymrwymiad i ddarlledu yn y Gymraeg".
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn nodi ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig a byddwn nawr yn ystyried ei argymhellion."
Ymateb S4C
Pwysleisiodd llefarydd ar ran S4C y byddan nhw'n darlledu pob gêm Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'n partneriaeth gyda Viaplay hefyd yn ein galluogi i ddangos pob gem bêl-droed dynion Cymru tan 2028.
"Mater i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yw diwygio'r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon o ddiddordeb cenedlaethol.
"Rydym ni'n falch iawn y bydd S4C yn cael ei chynnwys fel darlledwr cymwys o dan fframwaith y Digwyddiadau Rhestredig o dan Bil y Cyfryngau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2020