Ydy AI am ddisodli swyddi'r dyfodol?

  • Cyhoeddwyd
Manon Eames
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Manon Eames nad yw hi'n poeni y bydd AI yn cymryd lle awduron

O gyfieithu i ofyn i Alexa chwarae Radio Cymru, mae deallusrwydd artiffisial yn rhan o'n bywydau bob dydd, ond mae 'na bryder fod angen gwell reolaeth dros AI rhag iddo fygwth swyddi.

Mae Cyngres yr Undebau Llafur yn poeni fod pobl wedi eu llwytho gan ormod o waith neu hyd yn oed wedi eu diswyddo o ganlyniad i benderfyniadau gan systemau AI.

Mae awduron ymhlith y bobl sy'n poeni, ac mae Manon Eames sy'n gadeirydd Undeb yr Ysgrifenwyr yng Nghymru, yn dweud fod problem ynghylch dwyn deunydd eisoes yn bodoli.

Dywedodd: "Ar hyn o bryd da'n ni ddim fel undeb yn poeni bod deallusrwydd artiffisial yn mynd i gymryd lle awduron, ond mae 'na lot o bethe'n digwydd fel mwyngloddio data."

Aeth ymlaen i ddweud fod "cwmnïau'n bwydo miloedd ar filoedd o lyfrau i mewn i'w peiriannau iaith mawr nhw, ac mae hwnna'n hyfforddi'r peiriannau, ac wrth gwrs dy'n nhw ddim yn talu nac yn cydnabod nac yn cael caniatâd, felly mae hwnna'n dwyn gwybodaeth a gwaith awduron ac mae hynna'n digwydd nawr".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Williams o'r farn bod angen ymateb yn "bositif" i'r her

Yn ôl Ceri Williams o undeb y TUC maen nhw eisoes yn clywed am systemau AI yn rhoi gweithwyr dan bwysau.

"Mae gweithwyr sy'n delifro yn wynebu heriau mawr. Mae eu targedau nhw'n cael eu penderfynu gan AI weithiau yn annheg, maen nhw'n cael eu monitro'n rheolaidd gan greu straen ychwanegol."

Dywedodd fod eisiau ymateb yn "bositif i'r her yma a sicrhau fod y buddiannau a'r twf economaidd yn cael ei rannu'n deg gyda gweithwyr yng Nghymru, a dim jyst cwmnïau enfawr llewyrchus Americanaidd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gan ddeallusrwydd artiffisial y gallu i drawsnewid y sector gyhoeddus, ond mae angen bod yn ymwybodol o'r risg a'r effaith posibl ar y gweithlu ac ar hawliau dynol.

Ar y llaw arall mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud na ddylai manteision economaidd AI ddigwydd ar draul hawliau gweithwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Dyweodd Manon Cadwaladr fod AI wedi hwyluso gwaith cyfieithu

Eisoes mae AI wedi gweddnewid gwaith cyfieithwyr, ond teimlo ei fod yn hwyluso eu gwaith yn hytrach na bygwth eu swyddi mae cadeirydd Cymdeithas y Cyfieithwyr Manon Cadwaladr.

"Y gwir amdani ydi bod y dechnoleg yma ar gael yn Gymraeg ac mae hynny'n ffantastig," meddai.

"Mae o yn helpu cyfieithwyr, siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a'r di Gymraeg.

"Be sy'n andros o bwysig ydi bod rhaid i'r person sy'n defnyddio'r dechnoleg yma ei ddeall o yn iawn.

"Mewn ffordd, ti angen cyfieithydd sy'n gwybod yn well na'r peiriant er mwyn cael y canlyniadau gorau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dewis Jones, arbenigwr yn y maes, fod AI yn "gweddnewid y gweithle"

"Mae e'n gweddnewid y gweithle" er gwell, meddai Dewi Jones, sy'n arbenigwr yn y maes.

"Mae'n gallu helpu'r gweithlu i fod yn fwy effeithiol.

"Mae 'na newid ar droed ac felly mae angen i ni ddysgu yn well sut mae'n gweithio sut i'w ddefnyddio, ei berchnogi a'i wella at anghenion ein busnesau a'n cymdeithas ni ein hunain."

Does dim troi 'nôl. Mater o addasu a gweithio gyda'r dechnoleg newydd yw'r ffordd 'mlaen medd Cyngres yr Undebau Llafur, ond nid ar draul pobl go-iawn.