Zip World i ailagor rhan o Barc Antur Eryri yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Zip WorldFfynhonnell y llun, Zip World
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Zip World Conwy yn cynnwys anturiaethau dan do fel cwrs rhwystrau a sleidiau

Mae cwmni Zip World wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ailagor rhan o Barc Antur Eryri yn Sir Conwy.

Bydd Zip World Conwy yn cynnig anturiaethau dan do i ymwelwyr, ond does dim awgrym y bydd y lagŵn syrffio ar y safle yn ailagor.

Fe gaeodd y ganolfan syrffio yn Nolgarrog ym mis Medi 2023, a hynny am resymau ariannol.

Mae Zip World yn dweud y bydd y safle yn ailagor erbyn gwyliau'r Pasg.

Ffynhonnell y llun, Zip World
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Zip World Conwy "yn cynnig anturiaethau dan do ac yn gyfle i ddianc rhag yr elfennau drwy gydol y flwyddyn"

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydyn ni wedi cyffroi'n lân ein bod ar fin agor drysau pedwerydd safle Zip World yng ngogledd Cymru.

"Rydyn ni'n enwog am ein hanturiaethau unigryw yn yr awyr agored, ond bydd Zip World Conwy yn cynnig anturiaethau dan do ac yn gyfle i ddianc rhag yr elfennau drwy gydol y flwyddyn.

"Bydd amrywiaeth o brofiadau i'r rheiny sy'n chwilio am gyffro, gan gynnwys cwrs rhwystrau Ninja, ardal neidio styntiau a sleidiau eithafol."

Yn ogystal â hynny, bydd rhaffau uchel, ardal chwarae meddal i blant bach a bydd y cwmni hefyd yn ailagor y caffi a'r podiau gwersylla pren, fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr aros ar y safle.

Beth am y lagŵn syrffio?

Does dim awgrym y bydd y lagŵn syrffio yn ailagor fel rhan o'r cynlluniau.

Pan agorodd y lagŵn yn 2015 ar safle hen waith alwminiwm, hon oedd y ganolfan syrffio mewndirol gyntaf o'i math yn y DU.

Cafodd y ganolfan ei datblygu ar gost o £12m, gyda'r bwriad o ddenu 75,000 o bobl bob blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Richard Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Pan agorodd y lagŵn syrffio yn 2015 ar safle hen waith alwminiwm, honno oedd canolfan syrffio mewndirol gyntaf y DU

Ond ym mis Medi 2023, dywedodd y cwmni y byddai'r safle antur yn cau ar unwaith, ond y byddai'r gwesty a'r spa yn parhau ar agor.

"Y realiti trist yw, er y boddhad a'r anturiaethau mae'r tonnau wedi eu rhoi i gymaint fel yr arloesiad cyntaf o'i fath yn y byd, mae'r peiriant wedi costio ffortiwn i ni mewn amser segur, atgyweirio a cholled busnes," meddai'r cwmni bryd hynny.

Mae disgwyl i Zip World Conwy agor ar 22 Mawrth 2024.

Pynciau cysylltiedig