Nofio milltir rhew: ''Oedd o'n her'
- Cyhoeddwyd
Mae Sioned Eleri Roberts wedi bod yn mwynhau nofio awyr agored ers blynyddoedd - ond mae'r cerddor o Ddolgellau wedi gwthio'r hobi i'r eithaf eleni drwy lwyddo i nofio milltir rhew.
Mae hyn yn golygu nofio milltir mewn dŵr dan bum gradd dan oruchwyliaeth swyddogol - rhywbeth wnaeth Sioned lwyddo i'w wneud mewn llyn yn Doncaster ym mis Ionawr.
Esbonia Sioned: "Mae llwyth o bobl angen bod yna er mwyn gwneud o'n swyddogol a bod yr International Ice Swimming Association yn medru cadarnhau o.
"Oedd o'n anodd, oedd o'n her. Ond 'nes i rili mwynhau o.
"Dwi dipyn bach o pesimist a dwi'n ymwybodol o beth mae dŵr yn 'neud i'r corff. Mae'r gwaed yn cael ei bwmpio oddi wrth yr eithafon ac o gwmpas dy organau di.
"Os ti fewn yn rhy hir ti'n colli rheolaeth ar dy muscles a'n nofio yn arafach. Dwi 'di bod yn darllen am brofiadau pobl (sy' wedi gwneud y filltir rhew) ac o'n i'n ymwybodol bod nhw'n cymryd stroke rate ti wrth i ti fynd rownd.
"Os ydy stroke rate ti'n disgyn ti'n edrych fel bod ti'n stryglo ac maen nhw'n tynnu ti allan. O'n i'n gwybod fuasai hynny'n gallu digwydd.
"Ac o'n i'n gwybod y diwedd fyddai'r darn anoddaf. Ond 'nes i fwynhau o - oedd o'n anodd ond o'n i'n teimlo mod i 'di paratoi. Dwi isho 'neud o eto flwyddyn nesaf!
"Mae teulu a ffrindiau fi yn dweud 'diolch byth, 'nei di stopio fynd ymlaen am hyn rŵan'!"
'Nofiwr tywydd braf'
Mae Sioned wedi bod yn nofio ac yn mynydda ers pan yn blentyn ond nofiwr tywydd braf oedd hi nes 2016 pan aeth i fynydda gyda ffrindiau gan fynd i nofio yn Ffynnon Caseg.
Ers hynny mae nofio wedi dod yn rhan bwysig iawn o'i bywyd ac fe gafodd gymhwyster Nofio Dŵr Agored dair blynedd yn ôl sy'n ei galluogi i hyfforddi nofwyr eraill.
Dyna pryd y dechreuodd y nofio gwyllt i Sioned, gyda chriw bach yn dod ynghyd i nofio'n wythnosol ymhob tymor.
Er mwyn cymhwyso i wneud y filltir rhew, roedd rhaid i Sioned, sy' hefyd yn glarinetydd proffesiynol ac yn mwynhau cyfansoddi, nofio yn Loch Morlich yn yr Alban gydag eira o'i hamgylch.
Mae Sioned yn esbonio faint o waith paratoi oedd yn arwain at y gamp: "Efo'r trainio mae'n eitha peryglus achos mae 'na elfennau fel medru cael hypothermia.
"O'n i angen bod yn ofalus bod fi'n pwshio fy hun ddigon ond ddim yn pwshio fy hun ormod.
"Dwi wedi nofio 1.4km yn y tymheredd yna (dan bum gradd) o'r blaen ond dwi erioed wedi 'neud milltir yn y tymheredd yna. Felly roedd y 200m olaf yn unknown.
"O'n i'n benderfynol o gario 'mlaen. Cyn mynd i fewn oedd un o'r swyddogion wedi dweud, pan 'da chi'n cyrraedd y buoy yna byddwch yn ofalus achos dwi wedi gweld lot o bobl yn cyrraedd y buoy sy' 200 metr o lle 'da chi'n gorfod dod allan ac yn meddwl, 'o grêt dwi bron yna' ac wedyn mae'r adrenalin yn stopio.
"Oedd hwnna'n ddarn gwych o gyngor achos 'nes i feddwl, ocê dwi wrth y buoy yma rŵan a dwi'n gorfod cario 'mlaen. A dyna be 'nes i.
"Dwi mor hapus am 'neud o ac yn ddiolchgar i fy nheulu a ffrindiau sy' wedi cefnogi fi... fi 'dy'r nawfed person yng Nghymru i 'neud o.
"Pan ti'n meddwl bod ti'n medru 'neud rhywbeth ond ti ddim yn siŵr ond wedyn ti'n 'neud o..."
Felly beth yw apêl nofio mewn dŵr mor oer?
Meddai Sioned: "Pan dwi'n mynd i'r dŵr yn aml dwi ddim isho mynd i'r dŵr ac mae'n teimlo'n oer a dydi o byth yn mynd yn haws. Ond os dwi'n cael diwrnod drwg mae'n 'neud i fi deimlo dipyn bach yn well.
"Gan bod y cam cynta' i mewn i'r dŵr mor heriol ac ychydig funudau wedyn ti'n meddwl, mae hyn yn ocê, fedra'i wneud hyn.
"Mae mor heriol mae'n setio ti fyny i ddelio efo'r holl stwff ni'n gorfod delio efo bob dydd. O'r ochr feddyliol mae'n 'neud i fi feddwl fedra'i ddelio efo hyn a fedra'i ddelio efo pethau bach yn gwaith.
Cymuned
"Mae gen i griw dwi'n nofio efo ac mae hynny'n lyfli.
"Mae pawb yn teimlo'n rili vulnerable efo'i gilydd - ti yna yn dy wisg nofio ac mae pawb falle efo insecurities a phethau dydyn nhw ddim yn licio am eu hunain ond pan ti'n nofio efo pobl eraill mae pawb yr un peth. Mae hynny'n dod â phobl at ei gilydd.
"Wedyn mae'r dŵr oer yn rhyddhau hormonau so mae gen ti endorphins a ti'n teimlo'n rili hapus. Mae'r mynd allan wedyn ac mae lot o giglo a ti'n teimlon agosach at bobl.
"Weithiau rhai o'r sgyrsiau dwi wedi cael efo pobl ar ôl bod yn nofio efo nhw, ella fuasan nhw ddim wedi rhannu hynna os byddan ni allan yn cael diod. Mae'n 'neud i bobl deimlo yn rili cryf a'n gefnogol i'w gilydd. Mae'r gymdeithas nofio yn lyfli."
Felly beth fydd her nesaf Sioned?
"Wel, mae 'na nofio rhew am 2km neu nofio mewn tymheredd dan ddwy radd... gawn ni weld beth sy'n digwydd..."