Nofio’r Sianel: ‘Profiad gorau ac anoddaf fy mywyd’
- Cyhoeddwyd
“'Nes i fyth redeg mas o egni – roedd fy nghorff i’n teimlo fel bod e byth am stopio – ond yn feddyliol, ro’n i wedi torri.”
Dywedodd Makala Jones o Aberdaugleddau pan oedd hi’n 12 oed y byddai hi’n nofio’r Sianel un dydd.
A 43 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae hi wedi llwyddo, gan nofio’r 21 milltir o Loegr i Ffrainc mewn 16.5 awr ddydd Sul 9 Gorffennaf.
Yma mae Makala yn egluro sut beth yw cymryd rhan mewn camp mor anodd, a pham mai her i’r meddwl oedd hi mewn gwirionedd, yn hytrach nag un i’r corff.
“Dwi’n teimlo’n grêt ond mae fy ngheg yn boenus iawn – mae’n llawn ulcers oherwydd yr halen – dyna’r pris ti’n ei dalu. Ond mae fy nghorff i’n iawn!”
Yn rhyfeddol, dyma unig gwyn Makala ychydig ddyddiau wedi ei champ anhygoel; camp mae rhai pobl yn cymryd mwy nag un ymgais i’w chwblhau.
Roedd hi’n un o 12 a fentrodd nofio’r Sianel y dydd hwnnw, gyda dim ond naw yn cyrraedd yr ochr arall.
Llwyddodd Makala ar ei hymgais gyntaf, a hithau'n 55 oed.
'Peidiwch â chyffwrdd y cwch!'
Nid ar chwarae bach mae rhywun yn gwneud yr her yma; gyntaf, mae'n rhaid i chi brofi eich bod â'r gallu i wneud nofiad mor anodd mewn dŵr oer, ac mae yna reolau penodol mae’n rhaid cadw atyn nhw ar y diwrnod, er mwyn sicrhau fod yr ymgais yn un dilys, eglurodd.
“O’n i ond yn cael gwisgo gwisg nofio, gogls, earplugs a het nofio, gyda golau ar y gogls a chefn fy ngwisg nofio.
"Roedd rhaid i mi aros wrth ymyl y cwch, ond do’n i ddim yn cael cyffwrdd y cwch o gwbl – os o’n i’n ei gyffwrdd, dyna ddiwedd arni. Roedd rhywun swyddogol ar y cwch yn gwylio popeth i wneud yn siŵr mod i ddim yn cael mantais.
"Yn ddoniol, gan fod y paratoi 'mlaen llaw wedi bod mor brysur, ro’n i wedi edrych 'mlaen at fod yn y môr gyda dim byd ond y môr o’n amgylch i. Yn lle hynny, bob tro o’n i’n edrych lan, y cwbl o’n i’n ei weld oedd y cwch porffor 'ma!"
Diod ar raff
Nofiodd Makala yn ddi-stop o 2.30am tan 7pm, felly sut mae rhywun yn bwyta ac yfed yng nghanol y môr, er mwyn cael digon o danwydd i nofio cyhyd?
“Roedd fy hyfforddwr, Colin, a fy ffrind, Jemeima, ar y cwch ac yn fy mwydo i bob hanner awr; diodydd egni cynnes mewn potel ar ben rhaff, bananas a gels egni.
“Roedd rhaid i mi gario 'mlaen i symud pan o’n i’n bwyta, neu fase’r cerrynt yn fy anfon i’n ôl. Ac mae pi-pi yn anodd iawn pan ti’n nofio...!
“O’n i’n cael tabledi parasetamol bob pedair awr, rhag ofn i fy ysgwydd i neu fy nghyhyrau i ddechrau brifo. Dyna oedd fy unig syniad i o faint o amser oedd wedi mynd heibio.”
Nofio dŵr oer
Yn wahanol i beth fyddech chi wedi ei ddisgwyl efallai, doedd y môr ddim mor oer â hynny, meddai. Mae hi wedi hen arfer â nofio mewn tymheredd o'r fath, a hithau bellach yn hyfforddi nofio dŵr oer.
Er hyn, mae nofio heb siwt wlyb yn rhywbeth gymharol newydd iddi, meddai, ond yn rhywbeth sydd wedi bod o gymorth mawr i’w iechyd meddwl hi.
“’Nes i nofio yn y môr mewn gwisg nofio am y tro cynta’ bum mlynedd yn ôl. Roeddwn i’n bryderus y diwrnod yna a mhen i dros y lle. Es i i’r dŵr a ‘waw’; roedd fy ngofidiau i wedi mynd ac ro’n i’n teimlo’n rhydd. Dwi ddim wedi edrych nôl.
“Dwi’n diodde’ o iselder a gorbryder ers blynyddoedd. Roedd cwnsela yn wych, a rhedeg, seiclo a mynd i’r gym, sydd yn dda i dy iechyd meddwl a chorfforol. Ond pan 'nes i ddechrau nofio mewn dŵr oer, roedd e lefel wahanol.
“Does 'na neb yn mwynhau mynd i mewn – dwi’n sefyll ar y lan yn aml yn cwestiynu be’ dwi’n ei 'neud! Ond unwaith mae’r ysgwyddau’n mynd mewn, a ti’n cymryd yr anadl ddofn olaf 'na ti'n dechrau ymlacio.”
Brwydr feddyliol
Fodd bynnag, er bod nofio mewn dŵr oer wedi gwneud lles i Makala yn gyffredinol, roedd wir rhaid iddi frwydro’n feddyliol yn ystod yr her, eglurodd, gyda’r frwydr honno yn llawer anoddach na beth oedd yn digwydd iddi’n gorfforol.
“‘Nes i fyth redeg mas o egni – roedd fy nghorff i’n teimlo fel bod e byth am stopio. Ond yn feddyliol, ro’n i wedi torri.
“Dwi’n meddwl fod unrhyw berson sy’n diodde’ o iselder yn teimlo ein bod ni’n wan. Ond ry’n ni’n gallu ymladd - ry'n ni'n ymladd pob dydd - 'nes i ymladd pob munud o’r siwrne 'na...
“Roedd y dechrau’n wych. Ges i fy niod cynta’ ar ôl awr, ac o’n i’n teimlo fel mod i ond wedi bod yn y môr rhyw 10 munud! Wedyn y tabledi cynta’... roedd hyn yn ffantastig! Roedd y dŵr yn llonydd braf, ac os mai dyma fel oedd hi am fod yr holl ffordd, roedd e am fod yn hawdd!”
Ond wedyn dechreuodd y môr fynd yn fwy garw, ac wrth i amser fynd yn ei flaen, roedd Makala yn ei chael hi’n anodd i wybod faint o amser oedd wedi pasio, neu faint o bellter oedd ganddi ar ôl i’w nofio.
“O’n i eisiau holi’r pobl ar y cwch faint oedd gen i i fynd, ond ro’n i ofn gofyn. Os oedden nhw am ddweud rhywbeth fel mod i wedi bod yn nofio am 15 awr a bod gen i dal ddwy awr i fynd... dwi’n meddwl fasai hynny wedi fy nhorri i.
“O’n i jest yn cario mlaen i nofio ac anelu am yr amser bwydo nesa’... ti methu meddwl ymhellach na hynny.
'Dwi wedi ei 'neud e!'
“Pan ti’n gweld y tir ti’n meddwl rwyt ti am lanio arno yn dechrau diflannu, mae’n torri dy galon di. Ro’n i’n gweld tref ar y chwith i mi... wedyn roedd o syth o 'mlaen i... wedyn roedd e ar fy dde!
"Ti’n meddwl ei fod e’n llinell syth, ond dyw e ddim wrth gwrs; y môr yw e.”
Yr unig beth y gallai ei wneud oedd cario ymlaen i nofio tan iddi gyrraedd tir Ffrainc.
“’Nes i jest nofio a nofio tan i mi gyrraedd y lan. A’r eiliad 'nath fy llaw gyffwrdd y tywod... 'nath pob tamaid o’r boen ddiflannu. O’n i wedi ei 'neud e! Roedd e’n anhygoel. Roedd yr holl boen wedi mynd, a doedd dim ar ôl ond llawenydd.
“Roedd gŵr sy’n byw gerllaw, Patrice, wedi dod i gwrdd â fi, ac roedd hynny mor hyfryd. O’n i jest yn dweud drosodd a throsodd, 'dwi wedi ei neud e!'”
Mae Makala bellach yn ôl adref yn Aberdaugleddau, a dal ddim cweit yn medru credu ei bod hi wedi gwireddu breuddwyd oes.
Felly beth nesaf i rywun sydd wedi llwyddo i nofio’r Sianel ar ei hymgais gyntaf?
“Rhyw ddwyawr cyn diwedd yr ymgais, 'nes i ddweud wrth y bobl ar y cwch mod i’n casáu nofio a byth am ei wneud eto!
“Ond wrth gwrs, basiodd hynny, a dwi wrthi’n trefnu ras gyfnewid ar draws y Sianel gyda phobl o nghlwb nofio i flwyddyn nesa’!”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021