Tamaid o Loegr: Toad in the Hole
- Cyhoeddwyd
Mae Barbara Herbert yn byw ger Ilkley yn Swydd Efrog, gyda'i gŵr Gareth sydd yn un o Gymry Llundain.
Yn gyn-gogydd, mae hi wrth ei bodd yn coginio i'w theulu ac yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd bwyd i greu atgofion melys a theimlad o berthyn:
"Pan mae'r plant yn dod adre, maen nhw fel arfer yn gofyn am brydau penodol; beth o'n i'n arfer eu coginio iddyn nhw pan oedden nhw'n blant. Mae arogli a blasu bwyd yn mynd â chi'n ôl i atgofion a phrofiadau pwysig."
Mae ei rysáit am Toad in the Hole yn ffefryn gan y teulu, ac yn addas iawn i'w fwyta o flaen y rygbi, meddai:
"Mae 'na berthynas rhwng bwyd a rygbi; mae eich awydd bwyd yn newid yn ôl rhediad y gêm. Pan mae'r sgôr yn mynd eich ffordd chi, rydych chi'n bwyta ac yfed mwy, ond pan mae pethau'n mynd yn wael, mae eich tymer a metabolism yn gostwng. Eto, bydd y bwyd rydych chi'n ei fwyta yn helpu i greu atgofion."
Dyna obeithio felly y bydd plât pawb ond un yn wag draw yn Ilkley pan mae Cymru yn wynebu Lloegr ddydd Sadwrn...!
Toad in the Hole
Ar gyfer chwe pherson
Cynhwysion
12 selsig o'ch dewis chi
450g blawd plaen
280ml llaeth
280ml dŵr oer
8 ŵy mawr
Halen a phupur
140ml olew llysiau
2 nionyn maint canolig, wedi ei dorri
560ml grêfi - math pecyn neu gartref
Tun pobi o leiaf 30cm wrth 28cm a 6cm o ddyfnder
Dull
Cynheswch y popty i 230C (fan) neu farc nwy wyth
Torrwch y selsig yn eu hanner, eu rhoi yn y tun pobi a'u coginio nes eu bod yn frown golau. Draeniwch yr olew sy'n dod oddi arnyn nhw (byddai'r olew yn difetha' blas y pryd)
I wneud y cytew, rhowch y dŵr, llaeth a blawd mewn powlen. Ychwanegwch yr wyau a'r halen a phupur a'u curo gyda chymysgydd trydan nes ei fod yn llyfn
Rhowch y gymysgedd i orffwys yn yr oergell am 30 munud
Tywalltwch yr olew llysiau i'r tun, a'i roi yn ôl yn y popty am bum munud nes fod yr olew yn boeth iawn
Ail-gurwch y cytew am 10 eiliad yna'i dywallt ar ben y selsig a'r olew poeth yn y tun
Rhowch y tun yn ôl yn y popty am 25-30 munud nes fod y cytew wedi codi yn uchel, yn frown ac yn crispy
Tra fod hwn yn coginio, chwyswch eich nionod mewn llwy fwrdd o olew tan iddynt frownio. Ychwanegwch y nionod at eich grêfi
Gallwch weini'r pryd gyda thatws, swêd a moron - rhowch nhw i gyd yn yr un sosban a'u stwnsho os am gael llai o lestri i'w golchi...
Mwynhewch!
Hefyd o ddiddordeb: