Gallai biliau treth y cyngor Sir Benfro godi 21%

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Sir PenfroFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y mater yn cael ei drafod gan aelodau'r cabinet ddydd Llun

Mae'n bosib y bydd biliau treth y cyngor yn gorfod cynyddu 21% yn Sir Benfro y flwyddyn nesaf yn sgil yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel y sefyllfa ariannol fwyaf difrifol yn hanes yr awdurdod.

Dyma fydd y cynnydd mwyaf yn hanes Cyngor Sir Penfro. 12.5% oedd y cynnydd mwyaf cyn hyn.

Fe allai olygu £5.40 yr wythnos yn ychwanegol ar gyfer tŷ yn Band D.

Fe wnaeth cabinet Cyngor Sir Ceredigion argymell cynnydd o 13.9% yn nhreth y cyngor yn ddiweddar.

Mae gan y cyngor y lefel isaf o dreth y cyngor yng Nghymru ar gyfer tŷ yn Band D yn 2023-24, sef £1,342.86.

Yr opsiynau

Fe fydd aelodau'r cabinet yn gorfod ystyried tri opsiwn posib wrth drafod y mater ddydd Llun nesaf sef:

  • Opsiwn 1: 16.31% - £4.20 ychwanegol yr wythnos ar gyfer tŷ Band D

  • Opsiwn 2: 18.94% - £4.88 ychwanegol yr wythnos ar gyfer tŷ Band D

  • Opsiwn 3: 20.98% - £5.40 ychwanegol yr wythnos ar gyfer tŷ Band D

Mae'r tîm cyllid corfforaethol yn rhybuddio y bydd angen darganfod £41.3m yn ychwanegol i ddarparu gwasanaethau i'r awdurdod.

Bydd angen arbedion sylweddol o dan bob opsiwn sydd yn cael eu hystyried.

'Penderfyniadau anodd i ddod'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers datganoli, ry'n ni wedi parchu cyfrifoldebau awdurdodau lleol a heb ddefnyddio ein pwerau i roi cap ar dreth y cyngor.

"Dyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ddarparu setliad ariannol digonol i Gymru, ac mae ein cyllideb y flwyddyn nesa' gwerth £1.3b yn llai yn sgil chwyddiant.

"Er ein bod ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ailstrwythuro'r gyllideb, ry'n ni'n diogelu'r setliad craidd ar gyfer llywodraethau lleol drwy gynnig cynnydd o 3.1% i'r hyn gafodd ei addo i gynghorau y llynedd, cyfanswm o £5.7bn.

"Ry'n ni'n deall bod y setliad yn dal yn is na'r hyn sydd ei angen er mwyn delio yn llawn a'r pwysau y mae chwyddiant wedi ei roi ar wasanaethau lleol, ac y bydd rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd wrth lunio eu cyllidebau.

"Mae hi'n hanfodol eu bod nhw'n trafod gyda'u cymunedau lleol cyn penderfynu ar eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod."

'Pwysau digynsail'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro: "Mae chwyddiant a'r galw ar wasanaethau wedi gosod pwysau digynsail ar y cyngor ar gyfer 2024-25, gyda galw am ofal cymdeithasol plant ac oedolion yn fwy na £15m.

"Yn dilyn y cyllid a gadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyngor yn rhagweld bwlch ariannol o fwy na £31m ar gyfer 2024-25.

"Hyd yn oed ar ôl defnyddio cyllid premiymau'r dreth gyngor o £6m ac arbedion cyllideb o £9m-£12m, bydd angen i'r cyngor gynhyrchu rhwng £12m-£15m o gynnydd yn y dreth gyngor i fantoli'r gyllideb, a dyma'r rheswm dros yr opsiynau treth a gynigir.

"Oherwydd bod gan Sir Benfro'r dreth gyngor band D isaf yng Nghymru, mae pob cynnydd canrannol yn cynhyrchu llai mewn termau ariannol na holl gynghorau eraill Cymru."

Pynciau Cysylltiedig