Lleisiau pobl ifanc yn bwysig i 'ehangu dyfodol' Sioe Môn

  • Cyhoeddwyd
Manon Wyn a Gareth ThomasFfynhonnell y llun, Phil Hen
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Thomas - Llysgennad y llynedd yn trosglwyddo'r awenau i Manon Wyn

Mae Cymdeithas Amaethyddol Môn wedi cyhoeddi mai Manon Wyn Rowlands o Fodffordd ydy llysgennad newydd y sioe eleni.

Mae Sioe Sir Fôn, neu'r Primin, yn ddigwyddiad blynyddol dau ddiwrnod, sy'n denu dros miloedd o bobl o Fôn a thu hwnt.

Cafodd Cymdeithas Amaethyddol Môn ei sefydlu yn 1808 gyda'r nod o ddatblygu ar draws y sbectrwm amaethyddol.

Bob blwyddyn, mae'r gymdeithas yn penodi llysgennad newydd i'r gymdeithas i gyfarch stondinwyr ar faes y Primin - fel mae'n cael ei galw'n lleol - a chynrychioli'r gymdeithas mewn digwyddiadau gwledig.

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, BBC Radio Cymru, dywedodd Manon: "Ar ôl y cyfweliad, ges i wybod mod i wedi fy mhenodi yn llysgennad ac yn ddiolchgar iawn am y cyfle.

"Mae gen i ddipyn o syniadau marchnata ar y gweill er mwyn datblygu a symud gyda'r oes fel petai a sicrhau fod y sioe yn ffynnu, yn enwedig ers Covid, mae'r sioe wedi codi 'nôl ar ei thraed a dwi'n edrych ymlaen at fod yng nghanol y bwrlwm o'i chadw hi'n fyw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioe Môn yn denu dros 50,000 o bobl yn flynyddol

Yn berson ifanc ei hun, mae Manon o'r farn bod cael cynrychiolaeth ifanc ar bwyllgor y gymdeithas amaethyddol yn hollbwysig i sicrhau ei dyfodol.

Dywedodd Manon: "Mi yda ni'n gallu cynnig syniadau newydd ac ehangu dyfodol y sioe i symud gyda'r oes a moderneiddio.

"Dwi'n annog unrhyw berson ifanc sy'n dymuno cymryd rhan, helpu neu wirfoddoli i gysylltu gyda'r gymdeithas."

Ffynhonnell y llun, Phil Hen
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Vernon Jones (chwith) yn cymryd yr awenau fel llywydd y gymdeithas eleni gan Wyn Williams

Yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol diweddar, cafodd John Vernon Jones ei benodi'n llywydd y gymdeithas am y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Jones: "Mae blwyddyn newydd yn dechrau i swyddogion Cymdeithas Amaethyddol Môn ac rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn lewyrchus arall.

"Mae angen diolch hefyd i Gareth Thomas am ei waith y llynedd fel llysgennad yn cynrychioli'r gymdeithas wrth fynd o amgylch amryw o sioeau eraill a rydym yn ffodus o gael Manon Rowlands i gymryd yr awenau eleni.

Ychwanegodd: "Mae ganddi bedigri go lew gan ei bod hefyd yn swyddog ym Mudiad y Ffermwyr Ifanc a hefyd yn athrawes yn Ysgol Gynradd y Graig. Dymunwn yn dda iddi yn ei blwyddyn fel Llysgennad y Sioe."

Pynciau cysylltiedig