Lleihau costau a denu gwirfoddolwyr yn her i Sioe Môn

  • Cyhoeddwyd
Cystadlu brwd ymysg yr arddangoswyr dan chwech oed
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na gystadlu brwd ymysg yr arddangoswyr dan chwech oed

Cadw costau'n isel a denu mwy o wirfoddolwyr fydd yr her i drefnwyr Sioe Môn yn y dyfodol, yn ôl un o brif stiwardiaid y digwyddiad.

Mae'r sioe - neu'r Primin fel mae'n cael ei galw'n lleol - yn dechrau ddydd Mawrth am y tro cyntaf wyneb yn wyneb ers 2019 oherwydd y pandemig.

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn dywedodd Wyn Williams, dirprwy lywydd a phrif stiward adran y gwartheg, fod y cyfnodau clo wedi bod yn gyfle i ailedrych ar strwythur y sioe.

"'Dan ni wedi sbïo ar bopeth, pob un adran i weld faint o bres maen nhw'n gostio i ni a 'dan ni wedi trio safio mewn pob math o lefydd gwahanol," meddai.

"Roedd y costau wedi mynd allan o reolaeth a mi oedden ni'n gwneud colled o flwyddyn i flwyddyn. Felly 'dan ni wedi trio safio costau heb ddifetha gormod ar y sioe."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 60,000 o bobl yn mynd trwy'r giatiau fel arfer bob blwyddyn dros ddeuddydd y Primin

Mae 'na ddwy her anferth, yn ôl Mr Williams.

"R'un fath â phob busnes arall - cadw costau i lawr a thrio cael cymaint o wirfoddolwyr i helpu," meddai.

'Bydd yn brysurach nag erioed'

Un o'r gwirfoddolwyr ydy Ceinwen Parry - cadeirydd y pwyllgor sy'n chwilio am nawdd i'r achlysur.

"Mae'n galonogol faint o wirfoddolwyr sydd wedi dod ymlaen fel bod y sioe yn medru mynd ymlaen," meddai. "Mae pawb wedi dod at ei gilydd.

"O ran stondinwyr mae hi'n mynd i fod yn brysurach nag erioed, a 'dan ni wedi gosod y neuadd fwyd i arddangoswyr lleol i gyd eleni."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n galonogol faint o wirfoddolwyr sydd wedi dod ymlaen," medd Ceinwen Parry

Mae codi arian wedi bod yn flaenoriaeth hefyd.

"Un aelod o staff 'dan ni yn ei gyflogi yn llawn amser rŵan, o'i gymharu â thri. A 'dan ni wedi bod yn ffodus iawn o ran noddwyr.

"'Dan ni wedi cael ein siomi ar yr ochr ora' hefo faint o bobl sydd wedi dod ymlaen i noddi. Maen nhw isio gweld Cymdeithas Amaethyddol Môn yn ffynnu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Neuadd Fwyd yn gyfle gwych i gynhyrchwyr lleol, medd Menai Wyn Jones

Testun balchder i Menai Wyn Jones, trefnydd y Neuadd Fwyd sy'n cael ei noddi gan Menter Môn, yw bod 25 stondin yno eleni.

"Mae'n gyfle hynod o bwysig i gynhyrchwyr lleol ddangos eu nwyddau - dyma eu ffenest siop. Mae pobl yn andros o ffyddlon i'r sioe," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Y Cowt yn ymdrech i gadw pobl ar y cae, medd Dylan Evans a Jackie Lewis

Eleni hefyd fe fydd mwy o adloniant yn y sioe "i gadw pobl ar y cae".

"Da ni'n trio gneud rhywbeth tebyg i'r Eisteddfod," medd Jackie Lewis, uwch-swyddog Menter Môn sy'n noddi Y Cowt ar y maes.

"Peilot ydy o eleni ond mae'n rhwbath 'dan ni'n trio ei ddatblygu."

Ychwanegodd Dylan Evans o TeliMôn: "Fe fydd adloniant o 10:00 tan wedi 20:00 gyda sêr fel Welsh Whisperer, Candelas, Fleur de Lys ac Elin Fflur.

"'Dan ni'n fenter gymdeithasol - mae'n grêt gallu hybu rhywbeth lleol i ni a gobeithio bydd o'n tyfu."

Mae'r Primin fel arfer yn denu hyd at 60,000 o bobl dros gyfnod o ddeuddydd.

Pynciau cysylltiedig