Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Beddgelert
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 15: 50 brynhawn Sadwrn yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A4085 yn cynnwys car Ford Fiesta llwyd a beic modur Yamaha du.
Er gwaethaf ymdrechion i achub ei fywyd, bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i'w deulu ac wedi rhoi manylion yr achos i'r Crwner.
"Mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn ar yr adeg anodd yma," dywedodd y Sarjant Alun Jones o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.
"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu'n teithio neu'n cerdded ar hyd yr A4085 yn ardal Beddgelert ac â lluniau dashcam, i gysylltu gyda ni."
Mae'r ffordd wedi bod ar gau tra bo swyddogion uned fforensig yn cynnal ymholiadau cychwynnol i'r gwrthdrawiad.